Artistiaid

Arfon Gwilym



Cyfeiriad: Glangwyrfai, Saron, Caernarfon, LL54 5UL

Ebost: arfongwilym@btinternet.com

Canwr gwerin sydd â stor o alawon gwerin ar ei gof, ac wrth ganu cerdd dant, mae’r geiriau a’r ysbryd yn bwysicach iddo na chadw at lythyren y rheolau! Mae ganddo lais delfrydol ar gyfer canu gwerin, ac er bod ei ganeuon wedi eu gwreiddio yn y traddodiad Cymreig, mae iddynt hefyd newydd-deb arbrofol, gyda chaneuon a gosodiadau cerdd dant wedi eu haddasu gan Arfon ei hun. Teimlir cariad a gwerthfawrogiad angerddol am ein hetifeddiaeth a’n hiaith yn ei ganu, tra hefyd yn edrych ymlaen i’r dyfodol at greu y Gymru Newydd.

Sgwrs a chân am y Plygain . Mae’r traddodiad o ganu carolau traddodiadol Cymraeg wedi ei gynnal yn ddi-dor am genedlaethau yng nghyffiniau Sir Drefaldwyn (ac ambell i le arall). Gwelwyd diddordeb newydd yn y blynyddoedd diwethaf yn y traddodiad hwn, ond er mwyn codi Plygain o’r newydd rhaid gwybod y drefn ac adnabod y carolau.

Sgwrs a chân am Draddodiad Gwerin Cymru. Ai myth neu ffaith oedd yr “hen Gymru lawen”? Un o’r cyfnodau mwyaf diddorol yw’r 19eg ganrif pan welwyd croes-dynnu anferth rhwng yr hen hwyl a difrifoldeb yr oes newydd, dan ddylanwad y diwygiadau crefyddol a pharchusrwydd Oes Fictoria.

Ffi: Bydd y ffi a chostau teithio i’w trafod.