Artistiaid

Bethan Wyn Jones



Cyfeiriad: Cae Chwarel, Talwrn, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TF

Ffôn: 01248 723510 Ebost: caechwarel@btinternet.com

Botanegwraig, darlledwraig, cyfieithydd, awdur, darlithydd, colofnydd wythnosol yn y Daily Post Cymraeg, a Swyddog Addysg Cyfeillion Gwiwerod Cochion Môn.

Planhigion Meddyginiaethol

Yn aml iawn gwybodaeth lafar wedi ei throsglwyddo o un genhedlaeth i’r llall yw’r unig wybodaeth sydd ar gael am blanhigion meddyginiaethol.

Nid oedd Anne Griffith, Bryn Canaid, perthynas i’r llawfeddyg Emyr Wyn Jones, yn gallu darllen nac ysgrifennu, ond gwyddai fod bysedd y cwn (Digitalis) yn cael ei ddefnyddio at “wendid ar y galon”. Roedd hyn cyn i William Withering gyhoeddi’r papur ‘An account of the Foxglove and some of its Medical Uses’ yn 1785. Yn ei sgwrs bydd yn dweud hanesion am wahanol blanhigion, yn dangos enghreifftiau (os byddant yn eu tymor) ac yn annog trafodaeth ar ôl y sgwrs.

Ffi: Ffi a chostau teithio i’w trafod.