Artistiaid

Dr John Elwyn Hughes



Awdur, golygydd, ieithydd a hanesydd lleol Dyffryn Ogwen yw’r Dr John Elwyn Hughes. Ganwyd ym Methesda ac addysgwyd yn Ysgol Dyffryn Ogwen a Choleg Prifysgol Cymru, Bangor, lle graddiodd mewn Astudiaethau Celtaidd ac ennill gradd MA. Bu’n Bennaeth Adran Gymraeg ei hen ysgol, yna’n Ddirprwy Brifathro ac wedi hynny’n Brifathro’r ysgol. Bellach, mae’n Ymgynghorydd Iaith hunangyflogedig.

Bro Caradog Prichard drwy Luniau Byd a Bywyd Caradog Prichard Hanes awdur y nofel Un Nos Ola Leuad [1961] sydd â Bethesda yn gefndir iddi hi.

Byd Go Iawn Un Nos Ola Leuad - Y llefydd a’r bobl go iawn y tu ôl i’r mannau a’r cymeriadau yn y nofel.

A Pictorial Glimpse of the Ogwen Valley, introducing Caradog Prichard

A Nation Apart – A Brief History of Wales and the Welsh Language

Darlithiau PowerPoint ar y testynau a ganlyn:

- Bro Caradog Prichard mewn lluniau

- Byd a Bywyd Caradog Prichard

- Byd go iawn Un Nôs Ola Leuad

- Rhamant Iaith

- Hanes Streic Fawr Chwarel y Penrhyn

- Taith Lenyddol a Hanesyddol drwy Fro Caradog Prichard (tua 2 awr)

Ffi: Ffi a chostau teithio i’w trafod.

Cyfeiriad: Bryn Ogwen, Bethel, Caernarfon, LL55 3AA

Ffôn: 01248 670517

Ebost: johnelwyn@btinternet.com