Artistiaid

Gillian Brownson



Mae Gillian, sy’n awdur ac ymarferydd theatr o Gaergybi, wedi bod yn gweithio’n galed i ddod â theatr a storïau i galon y gymuned ers dychwelyd adref yn 2013

Yn ddiweddar, mae wedi gwethio gyda Greadigol Gwynedd ar brosiectau mewn lleoliadau gofal dementia i greu barddoniaeth ac adrodd straeon newydd yn seiliedig ar brofiadau’r trigolion. Gallwch glywed enghraifft o’r gwaith yma https://soundcloud.com/gillian-brownson-thompson

Mewn partneriaeth â Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru ac Amgueddfa Forwrol Caergybi, mae hi wedi dod â’r rhaglen addysg theatr ‘Those in peril’ i ysgolion yn ogystal â gweithio ar brosiectau eraill mewn ysgolion gyda Chyngor Celfyddydau Cymru a Drama Sbectrwm i CADW.

Mae Gillian hefyd yn cynnal partneriaethau hir-dymor gyda gwahanol safleoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru. Mae ganddi hi brofiad helaeth o berfformiadau deongliadol un-person ac hefyd yn gweithio gyda phartneriaid amrywiol fel storïwr traddodiadol.

Yn ogystal ag ysgrifennu ar gyfer perfformiadau, mae Gillian yn fardd ac yn llenor o ffuglen i blant, ac yn ddiweddar, fe’i rhestrwyd yn ddiweddar ar gyfer Gwobr Bloomsbury ar gyfer yr Awdur Newydd i Blant.

Mae Gillian yn gweithio’n bennaf yn Saesneg, ond yn gallu darparu prosiectau dwyieithog, ac yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn fwy yn ei gwaith.

I gael gwybod mwy, ewch i www.astonishingadventures.co.uk neu i’w tudalen yn www.facebook.com/GillianBrownson