Nosweithiau Cymreig
Gwynedd Greadigol

Emrys

Manylion cyswllt -
Emrys Llewelyn

Ffon: 07813 142751
Gwefan:
www.drodre.co
Ebost - emrys@drodre.co / emrys@caernarfonwalks.com

Arwain teithiau tywys Ty’d am Dro Co yng Nghaernarfon yn Gymraeg a Saesneg Town Tour.
Teithiau o amgylch tref Caernarfon manylion ar fy wefan: www.drodre.co (co nid com!)

Awdur - ‘Stagio Dre’ 2013 Y Lolfa, Erthyglau i wahannol bapurau newydd a chylchgronau e.e. Papur Dre, Barn, Barddas, Y Cymro, Golwg.

Cyfweliadau ynglŷn â hanes Caernarfon ar y radio a theledu.

Cyflwyniadau i gymdeithasau, unai ar ben fy hun neud gyda fy ngwraig Mari Gwilym.

Ffi:
Ty’d am Dro Co £7.50 i oedolyn a £3.00 i bobol ifanc
Cyflwyniadau: £75.00 a costau teithio

Ffôn: 01766 522124
Ebost: twmtrefan@hotmail.co.uk

Bardd, canwr a darlledwr o Lanystumdwy, Eifionydd. Bardd Plant Cymru 2009 – 10. Colofnydd i Taliesin a Barddas. Canwr y grŵp Bob Delyn a’r Ebillion. Mae’n gwneud llawer o waith fel bardd mewn ysgolion hefyd.
Cymru drwy lygad y bardd - A bard’s eye view of Wales Cyfle i deithio gyda’r Prifardd Twm Morys drwy hanes Cymru o’r chweched ganrif hyd heddiw drwy gyfrwng barddoniaeth Gymraeg.
Ffi: £100 a chostau teithio

Cyfeiriad:
Ty'n Pant,
Lon Pant y Gog,
Nebo,
Caernarfon,
LL54 6EA

Ffôn: 01766 772610
Ebost: twm.elias@eryri-npa.gov.uk

Naturiaethwr, darlithydd a threfnydd cyrsiau ym Mhlas Tan y Bwlch (Canolfan Astudio Parc Cenedlaethol Eryri), Maentwrog. Mae ei ddiddordebau yn eang – yn ymwneud yn bennaf â bywyd gwyllt, llên gwerin, hanes amaethyddiaeth a datblygiad hanesyddol cynefinoedd a thirlun Cymru. Mae yn awdur torreithiog sydd wedi cyhoeddi llu o erthyglau a nifer o lyfrau ar lên gwerin a hanes cefn gwlad a chyfrannwr rheolaidd i’r rhaglen Galwad Cynnar, Radio Cymru bob bore Sadwrn ar faterion amgylcheddol.
Y Porthmyn Cymreig Hanes ag antur y cymeriadau fyddai’n cerdded gwartheg a defaid o Gymru i bellafoedd Lloegr cyn dyddiau’r rheilffyrdd.
Y Smyglwyr Cymreig Ymgyrch boblogaidd smyglo brandi a halen yn oes y llongau hwyliau a nwyddau llai dymunol yr oes fodern Planhigion – eu defnyddiau a’u llên gwerin.
Welsh place names – their history and meanings (darlith Saesneg yn unig).
Ffi: £50 a chostau teithio.

Cyfeiriad:
Glangwyrfai,
Saron,
Caernarfon,
LL54 5UL

Ebost: arfongwilym@btinternet.com

Canwr gwerin sydd â stor o alawon gwerin ar ei gof, ac wrth ganu cerdd dant, mae'r geiriau a'r ysbryd yn bwysicach iddo na chadw at lythyren y rheolau! Mae ganddo lais delfrydol ar gyfer canu gwerin, ac er bod ei ganeuon wedi eu gwreiddio yn y traddodiad Cymreig, mae iddynt hefyd newydd-deb arbrofol, gyda chaneuon a gosodiadau cerdd dant wedi eu haddasu gan Arfon ei hun. Teimlir cariad a gwerthfawrogiad angerddol am ein hetifeddiaeth a’n hiaith yn ei ganu, tra hefyd yn edrych ymlaen i’r dyfodol at greu y Gymru Newydd.
Sgwrs a chân am y Plygain . Mae’r traddodiad o ganu carolau traddodiadol Cymraeg wedi ei gynnal yn ddi-dor am genedlaethau yng nghyffiniau Sir Drefaldwyn (ac ambell i le arall). Gwelwyd diddordeb newydd yn y blynyddoedd diwethaf yn y traddodiad hwn, ond er mwyn codi Plygain o’r newydd rhaid gwybod y drefn ac adnabod y carolau.
Sgwrs a chân am Draddodiad Gwerin Cymru. Ai myth neu ffaith oedd yr “hen Gymru lawen”? Un o’r cyfnodau mwyaf diddorol yw’r 19eg ganrif pan welwyd croes-dynnu anferth rhwng yr hen hwyl a difrifoldeb yr oes newydd, dan ddylanwad y diwygiadau crefyddol a pharchusrwydd Oes Fictoria.
Ffi: Bydd y ffi a chostau teithio i’w trafod.

Cyfeiriad:
Bron y Nant,
Llanrug,
LL55 4BA

Ffôn: 01286 673515

Llyfrgellydd, awdur , hanesydd lleol, rhedwr mynyddoedd a darlledwr yn ystod Râs yr Wyddfa.
Peking, Paris a Betws Garmon- Be ar y ddaear sydd yn cyslltu’r tri lle hwn? Hanes cychwyn a diwedd mwyngloddio yn Eryri.
Mwrdwr- Tair llofruddiaeth yn ardal Llanberis a Llanddeiniolen ac agweddau y trigolion lleol tuag at y llofruddiaethau.
Straeon Tylwyth Teg a Chewri- Straeon tylwyth teg a chewri gyda chyslltiadau ag Arthur, meini hirion a thwneli tan ddaear yn ardal Llanberis.
Y Ddau Felinydd- Hanes hen felinydd o Felin Hen ym Mhlwy Llandegai yn dwyn achos yn erbyn perchennog Melin Pentir o ddwyn dŵr
Ffi: i’w thrafod

Cyfeiriad:
Cae Chwarel,
Talwrn,
Llangefni,
Ynys Môn,
LL77 7TF

Ffôn: 01248 723510
Ebost: caechwarel@btinternet.com

Botanegwraig, darlledwraig, cyfieithydd, awdur, darlithydd, colofnydd wythnosol yn y Daily Post Cymraeg, a Swyddog Addysg Cyfeillion Gwiwerod Cochion Môn.
Planhigion Meddyginiaethol
Yn aml iawn gwybodaeth lafar wedi ei throsglwyddo o un genhedlaeth i’r llall yw’r unig wybodaeth sydd ar gael am blanhigion meddyginiaethol.
Nid oedd Anne Griffith, Bryn Canaid, perthynas i’r llawfeddyg Emyr Wyn Jones, yn gallu darllen nac ysgrifennu, ond gwyddai fod bysedd y cŵn (Digitalis) yn cael ei ddefnyddio at “wendid ar y galon”. Roedd hyn cyn i William Withering gyhoeddi’r papur ‘An account of the Foxglove and some of its Medical Uses’ yn 1785. Yn ei sgwrs bydd yn dweud hanesion am wahanol blanhigion, yn dangos enghreifftiau (os byddant yn eu tymor) ac yn annog trafodaeth ar ôl y sgwrs.
Ffi: Ffi a chostau teithio i’w trafod

Cyfeiriad:
2 Fron Deg,
Y Groeslon,
Caernarfon,
LL54 7TU

Ffôn: 07917 122675 / 01286 831870
Ebost: LunedRhysParri@btinternet.com

Artist yw Luned Rhys Parri, sy’n adnabyddus yn bennaf am ei cherfweddau 3D. Mae wedi ennill gwobrau am ei gwaith ac wedi arddangos ei gwaith dros Gymru, gan gynnwys Oriel Môn ac Oriel Tegfryn ym Miwmares. Mae’n gweithio yn y gymuned yn ogystal ag yn ei stiwdio yn y Groeslon.
Sgwrs gan Luned Rhys Parri Yn ei sgyrsiau bydd yn cyfeirio’n bennaf at y cymeriadau o Gymru a bortreadir ganddi a’u cefndir.
Ffi: £50 a chostau teithio

Cyfeiriad:
Bryn Ogwen,
Bethel,
Caernarfon,
LL55 3AA

Ffôn: 01248 670517
Ebost: johnelwyn@btinternet.com

Awdur, golygydd, ieithydd a hanesydd lleol Dyffryn Ogwen yw’r Dr John Elwyn Hughes. Ganwyd ym Methesda ac addysgwyd yn Ysgol Dyffryn Ogwen a Choleg Prifysgol Cymru, Bangor, lle graddiodd mewn Astudiaethau Celtaidd ac ennill gradd MA. Bu’n Bennaeth Adran Gymraeg ei hen ysgol, yna’n Ddirprwy Brifathro ac wedi hynny’n Brifathro’r ysgol. Bellach, mae’n Ymgynghorydd Iaith hunangyflogedig.
Bro Caradog Prichard drwy Luniau Byd a Bywyd Caradog Prichard Hanes awdur y nofel Un Nos Ola Leuad [1961] sydd â Bethesda yn gefndir iddi hi.
Byd Go Iawn Un Nos Ola Leuad - Y llefydd a’r bobl go iawn y tu ôl i’r mannau a’r cymeriadau yn y nofel.
A Pictorial Glimpse of the Ogwen Valley, introducing Caradog Prichard
A Nation Apart – A Brief History of Wales and the Welsh Language
Ffi: Ffi a chostau teithio i’w trafod

Ffôn: 07792134781
Ebost: rocetarwel@yahoo.com

Awdur a bardd. Ganed yn Rhos-y-Bol, Ynys Môn a’i addysgu yng Nghlwb Ffermwyr Ifanc Rhos-y-bol, Ysgol Uwchradd Amlwch a Phrifysgol Cymru Aberystwyth. Ef yw Cadeirydd Adran Gymraeg Pwyllgor Aelodau yr Academi. Mae’n Lyfrgellydd yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Jambo Caribw! - taith i Borth Uffern. Sgwrs am daith gerdded yn Kenya.
Diolch i Nhrwyn Sgwrs am ei daith i’r India.
Y Jonesiaid Sgwrs am bobl a lleoedd ym mhedwar ban byd sy'n arddel (ac yn gwrthod arddel) yr enw Jones.
Cymdeithas Loerig Drws y Nant 18G Darlith yn seiliedig ar y cerddi sydd wedi goroesi i'r Gymdeithas hynod hon a gyfarfyddai yn Nhafarn Nrws y Nant, rhwng Rhyd-y-main a'r Bala.
Dyddiadura Sgwrs am yr obsesiwn gyda'r arfer, a'r papur, a'r inc sydd angen i gadw dyddiadur.
Y Llyfrgell Genedlaethol Sgwrs am ei waith gyda'r Llyfrgell Genedlaethol.
Cerddi Fan Hyn Sgrws ar y gyfres o flodeugerddi 'Cerddi Fan Hyn' yn tynnu enghreifftiau o ardaloedd gwahanol.
Ffi: Ffi a chostau teithio i’w trafod

Ffôn: 01248 371987
Ebost: anncorkett@talktalk.net

Geiriadurwr, beirniad llenyddol, cyfieithydd llenyddol. Ganed ym Mlaenau Ffestiniog. Addysgwyd yng Ngholeg Iesu Rhydychen a Choleg y Gogledd Bangor. Darlithydd Ffrangeg wedi ymddeol.

Gwerineiriau Geiriau a dywediadau a godwyd oddi ar lafar gwlad, eu tarddiad a’u hanes. (Yn Gymraeg yn unig)

Maria Stella Gwraig yr Arglwydd Newborough, o Blas Glynllifon. Honnai Maria Stella mai hi ddylai fod yn frenhines Ffrainc.

Llen Gwerin Heddiw Sgwrs am straeon celwydd golau, ofergoelion a straeon ysbrydion.

Llywelyn Fawr a Siwan.

Y Dieithryn Wrth y Drws Thema allweddol yn nramâu Saunders Lewis. (Yn Gymraeg yn unig ac yn addas i grwpiau sy’n gyfarwydd â rhai o’r dramâu)

Ffi: Ffi a chostau teithio i’w trafod

Ffôn: 01248 364079
Ebost: goleufryn@hotmail.co.uk

Darlithydd wedi ymddeol a darlledwr achlysrurol ar Radio Cymru. Mae’n daid i ddeg o wyrion.
Yn y Cartrefi Cymreig Sbecian i mewn i dai gwahanol bobl o Lywelyn ein LLyw Olaf i Sali Mali a gweld sut mae’r Cymry yn byw.
Silff Lyfrau fy Nain Edrych ar y bont rhwng Hanes Cymru a Llenyddiaeth. Olrhain datbylgiad Llenyddiaeth drwy edrych ar silff lyfrau Nain dros cant a hanner o flynyddoed.
Butch Cassidy a’r Sundance Kid Yr hanes unigryw hwn yn America a’r Wladfa.
Ffi: Ffi a chostau teithio i’w trafod.

Cyfeiriad:
12 Caeberllan,
Braichmelyn,
Bethesda,
Gwynedd.
LL57 3PS

Ffôn: 01248 601130 / 07876254105

Cyfarwydd/Storiwraig Gwobrwyol ac Awdur. Mae Catherine wedi teithio led led Cymru a thramor yn adrodd straeon. Mae wedi ennill Gwobr Cymrodoriaeth yr Arts Foundation yn 2009 am Adrodd Stori. Mae hi hefyd yn awdures pum llyfr i blant.

Cath yn Clebran Sgwrs am sut mae dynes wedi medru gwneud bywoliaeth wrth barablu.

Chwedlau , Chwerthin a Chwarae Pwysigrwydd y stori wrth i blant dyfu a datblygu, a syniadau sut i ddenu plant i fyd y stori.

Mapio, Meddwl a Mynegi Sut y bydd storiwr yn paratoi stori i’w hadrodd yn gyhoeddus.

Ffi: £100 a chostau teithio

Mae sawl cynllun ar gael i’ch cynorthwyo wrth drefnu noson gyda siaradwr gwâdd.

Cynllun Awduron ar Daith Mae’r cynllun hwn yn talu 50% o ffi unrhyw awdur ddaw atoch i gynnal noson. www.llenyddiaethcymru.org

Cynllun Noson Allan Mae’r cynllun hwn yn eich helpu trwy gymryd cyfrifoldeb am y risg ariannol. www.nosonallan.org.uk

Cronfa Celfyddydau Cymunedol Mae’r gronfa hon yn gallu cyfrannu at gynnal nosweithiau celfyddydol. www.gwynedd.gov.uk/celf

Cyfeiriad:
Plas y Dduallt,
Tan y Bwlch,
Blaenau Ffestiniog,
Gwynedd

Ffôn: 01766 590272
Gwefan: www.naturcymru.org.uk
Ebost: huw.naturcymru@btinternet.com

Mae Huw Jenkins yn ohebydd cymunedol i Radio Wales ac yn gweithio i Natur Cymru, cylchgrawn chwarterol sy’n rhai yr holl wybodaeth am fywyd gwyllt Cymru.
Sgyrsiau posib:
‘Not Just a Pretty Place: Survival in Snowdonia’ yn edrych ar fyd natur, hanes, diwylliant ar ymdeimlad o gymuned sy’n goroesi neu sy’n ffynnu yng Ngogledd Cymru.
‘House on the Black Hillside. Dyddio blwydd gylch Plas y Dduallt a hen ddogfennau sy’n datgelu'r stori bywydau cyffrous yn Bro Ffestiniog.
Trigav (Slofenia) ac Eryri. Mae’r ddau barc cenedlaethol yma wedi eu cyfeillio ers 1993. Mae Huw yn dangos y cymariaethau rhwng y ddau barc wedi iddo dreulio amser yn byw yn yr hen Iwgoslafia.
Pris: 2 neu 3 tanysgrifiad i Natur Cymru, sy’n costio £16 yr un, a bydd y trefnwyd yn gallu eu defnyddio yn y raffl i’r gynulleidfa.

 


Oriel Lluniau

pix pix pix pix pix pix

Wal Fideo

» gweld mwy

Cysylltu

Gwynedd Greadigol
d/o Archifdy Caernarfon
Economi a Chymuned
Swyddfa'r Cyngor
Stryd y Jêl
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1SH

[t] 01286 679721
[e] post@gwyneddgreadigol.com

Bookmark and Share