Be sy’ mlaen?
Ffair Brintiau Gogledd Cymru
Dydd Sadwrn a Dydd Sul 10/11 Tachwedd 2018
Penwythnos o brint ym MOSTYN
Dydd Sadwrn a dydd Sul 10/11 Tachwedd 2018
10.30yb - 5.00yp
Bydd wneuthurwyr print, o bob rhan o’r DU, yn cyflwyno gwaith i’w werthu ym mannau prydferth Edwardaidd yr oriel. Mae Ffair Brintiau Gogledd Cymru, a drefnir mewn partneriaeth â’r Ganolfan Argraffu Ranbarthol, yn gyfle gwych i siopwyr brynu celf fforddiadwy a gwreiddiol yn uniongyrchol o’r artist, mewn digon o amser i’r Nadolig..