Be sy’ mlaen?
Dygwyl y Meirw
Dydd Sul 28 Hydref - Dydd Iau 15 Tachwedd
Tydy Taid ddim yma mwyach – ond, yng nghistiau’r atig, mae straeon Taid yn disgwyl i Gwen eu darganfod…
Dathliad o chwedlau yr hen Geltiaid, gyda chymorth cymeriadau ‘bwci-bo’ Cymreig fel yr Hwch Ddu Gota, y Ladi Wen a Jac y Lantarn.
Pypedau, triciau, miwsig, cysgodion…
Sioe bypedau (yn Gymraeg) gan gwmni Seren Ddu a Mwnci sydd yn addas i oed 4+
Castell Penrhyn, Bangor
- Dydd Sul 28 Hydref - 12:30 a 15:00
- Dydd Llun 29 Hydref - 12:30 a 15:00
- Dydd Mawrth 30 Hydref - 12:30 a 15:00
- Dydd Mercher 31 Hydref - 12:30 a 15:00
Archebwch eich tocynnau ar gyfer Castell y Penrhyn
Galeri Caernarfon
- Dydd Sadwrn, 10 Tachwedd - 11:00 a 14:00
Archebwch docynnau ar gyfer Galeri Caernarfon
Neuadd Dwyfor, Pwllheli
- Dydd Iau 15 Tachwedd, 11:00 a 13:15