Be sy’ mlaen?

Hyfforddiant i fod yn gynghorydd Darganfod ac Archwilio gydag Arts Award




Hyfforddiant Darganfod ac Archwilio - ARTS AWARD

Plas Mawr, Conwy – 21 Mai 2019

Ydych chi’n gweithio gyda phobl ifanc? Beth am fynd ati i feithrin eu gallu creadigol gydag Arts Award? Gallwch hyfforddi i fod yn gynghorydd Darganfod ac Archwilio gydag Arts Award a dysgu popeth sydd ei angen arnoch i ddarparu’r ddau gymhwyster hyn. Byddwch yn gallu helpu plant a phobl ifanc hyd at 25 oed i ddarganfod ac archwilio’r celfyddydau a gweithgarwch diwylliannol. Mae Arts Award yn agored i bobl ifanc o bob cefndir, beth bynnag y bo’u diddordebau, a gellir darparu’r rhaglen mewn amryfal leoliadau ac yn unol ag amserlenni gwahanol drwy unrhyw weithgarwch ym maes y celfyddydau, diwylliant neu’r cyfryngau.

Mae rhaglen Archwilio Arts Award yn gymhwyster Lefel Mynediad 3 ar y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau. Cymhwyster ar lefel ragarweiniol yw rhaglen Darganfod Arts Award.

Bydd yr hyfforddiant yn dechrau am 10am, a bwriedir cynnal sesiwn wedi’i theilwra ar eich cyfer yn y prynhawn i’ch helpu i gynllunio’ch gwaith.

Os hoffech fod yn bresennol cliciwch yma i cysylltu â Cyfuno Gwynedd

Bydd yr Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd (MALD) yn talu costau’r hyfforddiant a bydd cyllid ar gael i’r rheini a fydd yn cymryd rhan er mwyn iddynt gael gwneud cais am arian i dalu costau sy’n gysylltiedig ag ardystio/cymedroli a darparu Arts Award.