Be sy’ mlaen?

Prifysgol Bangor - Sefydlu Cynghrair Ymchwil Celfyddydau ac Iechyd Cymru




Sefydlu Cynghrair Ymchwil Celfyddydau ac Iechyd Cymru
Ydych chi’n ymchwilydd mewn prifysgol yng Nghymru sy’n ymchwilio i’r celfyddydau mewn iechyd a gofal cymdeithasol? Os felly, a hoffech chi fod yn rhan o Gynghrair Ymchwil Celfyddydau ac Iechyd Cymru gyfan?
Hoffem sefydlu rhwydwaith o bobl sy’n ymchwil-gynhyrchiol yng Nghymru i gydweithio ac ymateb i’r argymhelliad yn Astudiaeth Mapio o Weithgarwch Cyfredol Cyngor Celfyddydau Cymru (2018) i atgyfnerthu’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer y celfyddydau ac iechyd.
Yn gyntaf, a wnewch chi ateb Iona Strom gyda’r wybodaeth ganlynol am eich gweithgaredd ymchwil:
Eich enw a’ch sefydliad
Eich maes gwaith
Cyhoeddiadau/cynnyrch
Ffynonellau cyllid/grantiau a ddyfarnwyd
A wnewch chi anfon unrhyw fanylion atom erbyn 31 Gorffennaf 2019, a byddwn yn eu casglu ac ymateb ar ôl y dyddiad hwnnw.
Bydd yr holl wybodaeth yn cael ei rheoli yn unol â Pholisi Diogelu Data Prifysgol Bangor, sy’n adlewyrchu’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018 (y Ddeddf).
Edrychaf ymlaen at glywed gennych