Be sy’ mlaen?

Cân y Gân




Prosiect am gerddoriaeth a dementia yn Prifysgol Bangor -

Yn dilyn ymateb hynod i ein cais am ganeuon sydd yn codi gwen o’r cyfnod 10-30 oed cawsom bron i 600 cân unigol fel enwebiadau ar gyfer y CD. Daeth nifer fawr o enwebiadau ar lein a gan gynulleidfa a chystadleuwyr Côr Cymru yn Aberystwyth (15-17/2/19). Dyluniwyd y clawr gan Phil Townson, cerddor dawnus sydd yn byw â dementia, tra roedd yn rhan o’r ymchwil Dementia a’r Dychymyg. Mae’r dyluniad ei hun yn plethu’n sensitif â themâu prosiect, gyda cherddoriaeth yn elfen amlwg a naturiol ohoni. Rydym hefyd wedi derbyn adborth gan grŵp y Gymdeithas Alzheimer’s sydd yn siarad Cymraeg.

Bydd y CD a linc i’w lawr lwytho yn ddigidol ar gael erbyn diwedd mis Mehefin. Ein bwriad yw dathlu’r gwaith a chodi cyhoeddusrwydd yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol, Llanrwst. Cynhelir y lansiad ar stondin Prifysgol Bangor, am 1yh ar y 9fed o Awst.

Os hoffech fwy o wybodaeth mae croeso i chi gysylltu â [Dr Catrin Hedd Jones yma] (mailto:c.h.jones@bangor.ac.uk/) neu ar 01248 38887).

Yn ôl i rhestr digwyddiadau.