Be sy’ mlaen?
Storiel - Amgueddfa ac Oriel Gwynedd
Arddangosfeydd
Merched Chwarel 13 Ebrill - 7 Medi
Mae Merched Chwarel yn grŵp o bedair artist – Marged Pendrell, Jŵls Williams, Lisa Hudson a Lindsey Colbourne – y mae eu gwaith yn gysylltiedig â chwareli Gogledd Cymru, lle maent i gyd yn byw a gweithio. Bydd Jill Piercy yn ymuno â nhw fel curadur ar gyfer y prosiect hwn.
Fel grŵp o egin artistiaid ac artistiaid sefydledig, mae Merched Chwarel wedi datblygu eu syniadau gyda chefnogaeth grant ymchwil a datblygu gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Defnyddiasant y cymal chychwynnol hwn yn eu cydweithio i chwilio am olion troed merched ac i archwilio presenoldeb gwirioneddol mewn amgylchedd lle roedd dynion yn teyrnasu. Roedd eu proses ymchwil yn seiliedig ar gydgerdded yn y chwareli ac ar ymgysylltu â’r gymuned, a datblygodd hwn yn ymchwil haenog yn archwilio treftadaeth ddiwydiannol, hunaniaeth, mapio, cyswllt â lle, iaith, creu marciau, ac ymateb ‘Merched’ cyfoes i etifeddiaeth y chwarel.
Wil Rowlands - Bwrw ‘Malen 14 Medi - 4 Ionawr
Mewn ymateb i newidiadau yn y tir, popl, iaith, mae’r paentiadau hun yn archwilio erydiad yn y hyn a welwn ac a deimlwn gan gysidro sut daw hyfrydwch arall yn eu lle.
Dylan Arnold - Cymru Cudd - 14 Medi - 16 Tachwedd
Ble bu unwaith fywyd a phrysurdeb , mae’r mannau cudd ac angof hyn bellach yn eistedd mewn tawelwch. Mae’r ffotograffau atmosfferig hyn yn cynnig cip ar straeon o’r gorffennol hwnnw sydd yn araf ddiflannu.
Kim Atkinson + Ian Phillips - 14 Medi - 2 Tachwedd
Bardsey, Ynys Sanctaidd. Portreadu’r arfordir garw, bywyd gwyllt a phobl wrth waith ym mhrintiau gyfres gyfyngedig ddau artist uchel eu parch.
Agoriad Wil Rowlands, Dylan Arnold, Kim Atkinson + Ian Phillips
29 Awst - 13 Medi 2019
Ymunwch â ni yn yr Agoriad Dydd Gwener 13 Medi 6.30 - 8.00 yp
Cefyn Burgess, Sian Owen - Llechen - 24 Awst - 12 Hydref
Cefyn Burgess, Sian Owen 24 Awst - 12 Hydref 2019
Enghreifftiau o lechi cerfiedig yn Storiel. Cerfiwyd y rhain gan chwarelwyr yn y 19eg ganrif, a ddarganfuwyd yn bennaf yn Dyffryn Ogwen. Dangosir hefyd ddyluniadau tecstilau gwehyddu cyfoes a phrintiau cyfryngau cymysg wedi’u hysbrydoli gan batrymau ar lechi cerfiedig.