Lleoliadau

Cae’r Gors : Canolfan Treftadaeth Kate Roberts



Dewch i Gae’r Gors, cartref plentyndod Kate Roberts. Yn ein harddangosfa amlygyfrwng cewch ddarganfod beth ysbrydolodd yr awdures, a chewch wrando ar leisiau’r gorffennol yn y bwthyn traddodiadol. Os y dymunwch drefnu ymweliad grwp gallwn, drwy drefniant o flaen llaw, deilwra eich profiad er mwyn sicrhau eich bod yn cael ymweliad bythgofiadwy. Mae’r ganolfan hefyd ar gael i’w llogi ar gyfer cynnal cyfarfodydd, gweithdai, darlithoedd a chyrsiau. Mae’r ganolfan ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Gwener drwy’r flwyddyn. Fydd y ganolfan hefyd ar agor ar y penwythnos o fis Mawrth i fis Hydref.

Cyfeiriad:

Cae’r Gors,

Canolfan Dreftadaeth Kate Roberts,

Rhosgadfan,

Caernarfon,

Gwynedd

LL54 7EY

Ffôn: 01286 831715

Gwefan: www.caergors.org

Ebost: post@caergors.org