Lleoliadau

Neuadd Dwyfor



Cyfeiriad: Neuadd Dwyfor, Stryd Pen Lan, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5DE

Ffôn: 01758 704088 Gwefan: www.gwynedd.gov.uk/neuadd-dwyfor Ebost: neuadd_dwyfor@gwynedd.gov.uk

Gyda 354 o seddi a rhaglen greadigol sy’n cynnwys ffilm, cynyrchiadau gan gwmnïau lleol a chenedlaethol, perfformiadau ballet, opera, dramâu a chyngherddau. Mae gan Neuadd Dwyfor gymaint i’w gynnig i’r bobl leol ac ymwelwyr i’r ardal. Mae’r adeilad Fictorianaidd hwn, a adeiladwyd yn 1902 bellach yn ganolfan gelfyddydol fywiog a chyfoes ac yn gartref i lyfrgell Pwllheli.