Lleoliadau

Oriel Ysbyty Gwynedd



Mae Rhaglen Celfyddyd mewn Iechyd a Lles Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn partneriaeth â Uned Celfyddydau Cymunedol, Cyngor Gwynedd yn rhaglennu cyfres o arddangosfeydd chwarterol o weithiau celf a chrefft ar gyfer Oriel Ysbyty Gwynedd. Mae’r fenter hon yn rhan o raglen celfyddyd mewn iechyd a lles ehangach sy’n cynnwys cynlluniau arloesol sy’n defnyddio’r celfyddydau i gyfrannu tuag at ofal iechyd, i hyrwyddo lles ac i wella cysylltiadau cymunedol a chyfathrebu. Mae rhai enghreifftiau’n cynnwys gweithdai celfyddydol, perfformiadau cerddorol a chynllun artistiaid preswyl. Amcan Oriel Ysbyty Gwynedd yw cyfrannu’n bositif tuag at amgylchedd gofal iechyd er budd pawb sy’n defnyddio’r ysbyty yn ogystal â chynnig cyfleoedd arddangos i artistiaid i gynulleidfa amrywiol a niferus yr Ysbyty.

Cyfeiriad:

Ysbyty Gwynedd,

Penrhosgarnedd,

Bangor.

Ffôn: 01286 679721 / 07789 032517

Ebost: GwawrR@gwynedd.gov.uk