Lleoliadau

Pontio Bangor



Pontio – canolfan celfyddydau ac arloesi

Wedi ei rannu dros chwe llawr, Pontio yw canolfan celfyddydau ac arloesi newydd sbon Prifysgol Bangor. Mae’r adeilad, wedi ei gynllunio gan y penseiri Grimshaw, yn gartref i theatre hyblyg maint canolig wedi ei enwi ar ôl Bryn Terfel, stiwdio theatre sy’n dal hyd at 120 o obobl, sinema ddigidol sy’n dal 200, canolfan arloesi o’r radd flaenaf ac ystod eang o gyfleusterau ar gyfer myfyrwyr gan gynnwys cartref newydd i Undeb y Myfyrwyr a nifer o ofodau dysgu ac addysgu. Mae hefyd yn cynnig bwyd a diod ym Mar Ffynnon a Chaffi Cegin.

Mae Pontio yn cynnig pob math o adloniant saith diwrnod yr wythnos, o’r ffilmiau diweddaraf i gerddoriaeth a drama, gigs, syrcas gyfoes a theatre awyrol, sioeau cabaret a llawer mwy.

Oriau agor: logo pontio

Llun i Sadwrn 8:30yb-11yh

Sul 12:00-8yh

I ddarganfod yr arlwy diweddaraf, ewch i www.pontio.co.uk, dilynwch ni @TrydarPontio, facebook PontioBangor neu Instagram

Cyfeiriad:

Canolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio

Ffordd Deiniol

Bangor

Gwynedd

LL57 2TQ

Ffôn: 01248 382828

Gwefan: www.pontio.co.uk

Ebost: info@pontio.co.uk