Eisteddfod Caerdydd 2018 - Arddangosfa Agored
Gwynedd Greadigol

Yng Nghaerdydd lleolir Y Lle Celf yn Y Senedd lle’r cynhelir arddangosfa aml-gyfrwng fawr. Croesewir ceisiadau ym mhob disgyblaeth. Gwahoddir ymgeiswyr i gyflwyno gwaith ar ffurf delweddau JPG ynghyd â datganiad clir ynglŷn â’r gwaith.

Anrhydeddir rhagoriaeth fel a ganlyn:

CELFYDDYD GAIN

Y FEDAL AUR AM GELFYDDYD GAIN

Gwobr Medal Aur am Gelfyddyd Gain a £5,000 i’w rannu yn ôl doethineb y detholwyr.

CREFFT A DYLUNIO

Y FEDAL AUR AM GREFFT A DYLUNIO

Gwobr: Medal Aur am Grefft a Dylunio a £5,000 i’w rannu yn ôl doethineb y detholwyr.

YSGOLORIAETH ARTIST IFANC

Ysgoloriaeth: £1,500

Detholir yr Arddangosfa Agored gan:

• Marc Rees (Curadur a Chyfarwyddwr Artistig Annibynnol)

• Karen MacKinnon (Cyfarwyddwr a Churadur Artes Mundi)

• Ingrid Murphy (Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd)


Er mwyn ymgeisio ar gyfer yr Arddangosfa Agored cwblhewch y ffurflen gais ar-lein ar wefan yr Eisteddfod https://eisteddfod.cymru/y-maes/lleoliadaur-maes/y-lle-celf/arddangosfa-agored


Oriel Lluniau

pix pix pix pix pix pix

Wal Fideo

» gweld mwy

Cysylltu

Gwynedd Greadigol
d/o Archifdy Caernarfon
Economi a Chymuned
Swyddfa'r Cyngor
Stryd y Jêl
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1SH

[t] 01286 679721
[e] post@gwyneddgreadigol.com

Bookmark and Share