Cystadlaeaeth i ysgrifennwyr dros 50 oed
Gwynedd Greadigol

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru a Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn cynnig cyfle am ysgrifennwr yng Ngymru ennill cwrs ei ddewis Tŷ Newydd am ddim fel rhan gŵyl gelfyddydau Gwanwyn 2017 ar gyfer pobl dros 50 oed.

Emma Robinson yw cydlynydd Gŵyl Gelfyddydau Gwanwyn yn Age Cymru.
Meddai:

“Llongyfarchiadau i Celfyddydau Anabledd Cymru a Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd am ennill y cyllid hwn.

“Nid ydych chi byth yn rhy hen i chi gymryd rhan mewn gweithgaredd newydd a mae Gŵyl Gwanwyn yn gyfle i bobl dros 50 oed ledled Cymru i ddarganfod eu creadigrwydd neu ail-ddarganfod hen hobïau.

“O weithdai paentio; i berfformiadau dawns; i arddangosfeydd ffotograffiaeth; i gyfres o ffilmiau y’i dangoswyd mewn sineman ar bier i berformiad gan gôr dementia yng Nghastell Caerfili, mae Gwanwyn wedi cyflawnni llawer dros y blynyddoedd diwethaf.

“Rydym hefyd wedi cynnal gweithdai comedi wrth iddym geisio darganfod person hŷn mwyaf doniol Cymru a’r dosbarth Parkour cyntaf erioed i bobl dros 50 oed yng Nghymru. Mae wedi bod yn lond trol o hwyl ac mae’n anodd coelio fod Gwanwyn yn fwy na 10 oed, ond dwi’n falch iawn bod Celfyddydau Anabledd Cymru a Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn rhan o’n dathliadau.”

Am y manylion llawn: http://www.disabilityartscymru.co.uk/training-and-courses/cyfle-i-ennill-cwrs-ysgrifennu-ty-newydd/ ond am fwy o wybodaeth/cwestiynau cysylltwch â denni@dacymru.com or post@dacymru.com

 

Oriel Lluniau

pix pix pix pix pix pix

Wal Fideo

» gweld mwy

Cysylltu

Gwynedd Greadigol
d/o Archifdy Caernarfon
Economi a Chymuned
Swyddfa'r Cyngor
Stryd y Jêl
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1SH

[t] 01286 679721
[e] post@gwyneddgreadigol.com

Bookmark and Share