What's On?

Galeri ***VACANCY*** (Welsh speaker essential)




Swydd - Cyfarwyddwr Gweithrediadau a Gwasanaethau Cwsmer (Welsh speaker essential)

Wrth i nifer ymwelwyr Galeri gynyddu’n sylweddol yn ystod y flwyddyn diwethaf, mae’r Cwmni yn chwilio rwan am berson brwdfrydig, trefnus ag egniol er mwyn sicrhau gwelliant sylweddol a pharhaus i’r profiad rydym yn ei gynnig wrth ymweld a Galeri.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus angen sicrhau cyd-rediad esmwyth ag effeithiol rhwng gweithrediadau Galeri a’r staff sydd yn gofalu a chyfathrebu hefo’n cwsmeriaid er mwyn cynnig profiad rhagorol i’n cwsmeriaid.

Mae ein gwasanaethau cyswllt cwsmer yn cynnwys staff sydd yn gweithio yn y dderbynfa; staff arlwyo gan gynnwys staff cegin; staff blaen ty i’r theatr/ sinemau a hefyd gwirfoddolwyr Galeri.

Mae hon yn swydd newydd sydd yn gosod y cyfrifoldeb am ein gwasanaethau cyswllt cwsmer i gyd o dan un arweinydd ac felly yn swydd sydd yn galw am berson sydd hefo’r sgiliau i allu arwain, ysbrydoli, trefnu gweithrediadau a rheoli staff cyswllt cwsmer er mwyn darparu gwasanaeth o’r safon uchaf.

Oriau: 40 awr yr wythnos

Cyflog: oddeutu £30,000

Dyddiad cau: 16.08.19 [12:00 – hanner dydd]

Gellir gweld y swydd ddisgrifiad llawn yma.

I ymgeisio, llenwch ac anfonwch y ffurflen gais yma i sylw Gwyn Roberts

Mae’r gallu i gyfathrebu yn effeithiol a chlir drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol i’r swydd.