Be sy’ mlaen?

Grantiau Celfyddydau Cymunedol




Celfyddydau Cymunedol

Mae Uned Celfyddydau Cymunedol Gwynedd yn cynnal cyfres o gynlluniau blynyddol sy’n cefnogi pobl gael mynediad at, mwynhau a phrofi’r celfyddydau, a hynny er lles unigolion, cymdeithas, yr economi a chymuned.

Bob blwyddyn mae Uned Celfyddydau Cymunedol Gwynedd yn cynnal rhaglen o wahanol weithgareddau a phrosiectau ar draws y sir. O weithdai i arddangosfeydd, cyrsiau i grantiau a gwyliau i gynlluniau creadigol, rydym am i bawb fwynhau’r celfyddydau.

Mae grantiau ar gael i gefnogi gweithgarwch celfyddydol. Gallwn hefyd gefnogi perfformiadau proffesiynol yn y gymuned drwy raglen Noson Allan a Noson Allan Fach, mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru.

Cliciwch yma am mwy o fanylion am gronfeydd ariannol.

Yn ôl i rhestr digwyddiadau.