Be sy’ mlaen?

Llyfr Glas Nebo




Rydym yn falch o gyhoeddi manylion taith Llyfr Glas Nebo, addasiad llwyfan o’r nofel ôl-apocalyptaidd gan Manon Steffan Ros.

Mewn partneriaeth â Galeri, a chyda cefnogaeth ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru, bydd y cynhyrchiad yn teithio theatrau ar draws Cymru yng Ngwanwyn 2020.
Mae Llyfr Glas Nebo wedi creu argraff syfrdanol yn y 12 mis ers ei chyhoeddi. Ychydig dros wythnos ar ôl i’r nofel ennill Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd 2018, roedd ailargraffiad yn cael ei baratoi, ac aeth ymlaen i gipio gwobr driphlyg yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2019 ym mis Mehefin eleni.
Mae’r gyfrol yn dilyn stori ryfeddol Siôn, ei fam Rowenna, a’i chwaer fach, Dwynwen wrth iddynt geisio goroesi ar ôl Y Terfyn – hunllef a gafodd effaith ddychrynllyd ar drigolion pentref Nebo a thu hwnt.
Mae’r daith yn cychwyn yn Galeri, Caernarfon ar 31 Ionawr ac yn ymweld â Phwllheli, Caerdydd, Aberhonddu, Aberystwyth, Rhosllannerchrugog, Gartholwg, Caerfyrddin, Pontardawe, Dyffryn Aeron – cyn gorffen yn Pontio, Bangor ar y 5ed a 6ed o Fawrth.
Mwy o fanylion a sut i archebu tocynnau yma