Be sy’ mlaen?

Comisiwn i Artistiaid




Comisiwn i Artistiaid

Mae Frân Wen yn cynnig comisiwn i ddau artist wrth iddynt ddatblygu dyluniad uchelgeisiol eu cartref newydd, Nyth.

Mae’r cwmni wedi prynu hen Eglwys y Santes Fair yn ardal Hirael, Bangor ac ar fin ei thrawsnewid yn gartref newydd i’r cwmni. Bydd yr adeilad yn ymgorffori ethos cwmni Frân Wen ac yn le croesawgar, bywiog a chynhwysol i bobl gydweithio ac ymarfer creadigrwydd.

Rydym yn awyddus i weithredu’r un weledigaeth yn ystod datblygiad y prosiect cyfalaf ac felly’n comisiynu dau artist i gydweithio â ni, y gymuned leol, a’n tîm dylunio – Manalo & White, I ddatblygu syniad creadigol newydd ar gyfer yr adeilad. Bydd y broses a’r artistiaid yn cael eu cefnogi gan ymgynghorwyr arbenigol, Dis/Ordinary Architecture.

Pecyn Gwybodaeth Comisiwn Artist yma

Mwy am Frân Wen yma

Yn ôl i rhestr digwyddiadau.