Be sy’ mlaen?

Gŵyl Tŷ Allan - Gŵyl gelfyddydol ddigidol




Gyda phobl ifanc a llawer o oedolion yn chwilio am ffyrdd o ddiddanu eu hunain a’u teuluoedd mewn ffordd greadigol yn ystod y cyfnod clo, mae Actifyddion Artistig wedi creu gŵyl gelfyddydau ddigidol lle gall pobl gymryd rhan heb orfod camu’r tu hwnt i garreg eu drws.

Mae Actifyddion Artistig wedi bod yn arwain y ffordd yng Nghymru drwy eu hymgysylltiad ag ysgolion, athrawon, teuluoedd a phobl ifanc yn ystod y cyfnod clo, gan ddarparu adnoddau addysgol ar-lein, mynediad at diwtorialau creadigol byw, ynghyd â dolenni a chyngor. Bydd Gŵyl Tŷ Allan yn cynnig mynediad AM DDIM at weithgareddau ar-lein, a bydd yn cynnwys gweithgareddau dan arweiniad artistiaid a mini-brosiectau i annog pobl o bob oed, nid dim ond plant, i fwynhau natur gan ddysgu mewn ffordd hwyliog a chreadigol.

Mae’r celfyddydau wastad wedi chwarae rôl allweddol yn cefnogi ac yn ysgogi ymdeimlad o lesiant ar gyfer y rhai sy’n cymryd rhan ac yn ymgysylltu â nhw, gyda cherddoriaeth, canu, dawns, theatr, a’r celfyddydau gweledol i enwi dim ond rhai.

Bydd llawer o’r ymgysylltiad â’r gweithgareddau dan arweiniad artistiaid yn yr ŵyl yma yn cynnwys natur a byddant wedi’u hysbrydoli gan fyd natur. Wrth i ni gamu’n betrusgar o’r cyfnod clo, rydyn ni am annog pobl ifanc yn benodol i fwynhau natur mewn ffordd hwyliog, greadigol ac yn bwysicaf oll, diogel. Bydd bod tu allan NAWR yn fwy nag erioed yn cael effaith gadarnhaol ar ein hiechyd meddwl a’n llesiant. Bydd yr ŵyl ddigidol yma’n dod â’r holl elfennau yma at ei gilydd i ddysgu pethau newydd mewn ffordd hwyliog a chreadigol!

Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal dros gyfnod o fis, a bydd yn cael ei lansio ddydd Sadwrn 18 Gorffennaf ac yn parhau tan ddydd Sadwrn 15 Awst. Mae Actifyddion Artistig wedi creu rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau, a darperir rhywfaint o’r gweithgareddau mewn cyfres o waith i bobl rhwng 1 ac 80 oed. I roi blas ar y rhain mae Prom Tidli (i blant rhwng 1 a 5 oed), sy’n gyfres o 4 gweithgaredd gwahanol yn ymwneud â chynnwys, themâu a chymeriadau Prom Tidli. Prom Teulu, sydd eto yn gyfres o 4 gweithgaredd gwahanol (i blant 5 oed a hŷn); cyfres o 5 podlediad dan arweiniad Jonathan James (10 oed a hŷn) yn cynnwys sgyrsiau gydag artistiaid amrywiol am y berthynas, y dylanwad a’r ysbrydoliaeth rhwng cerddoriaeth a natur; cyfres o 12 gweithgaredd Celfyddydau Ieuenctid a fydd yn cefnogi datblygiad sgiliau newydd (rhwng 10 ac 18 oed). Ac, wrth gwrs, y Cwis - sydd wedi bod yn rhan fawr o’r cyfnod clo! Rydyn ni wedi creu 4 cwis i’r teulu ar bynciau celfyddydau gweledol, cerddoriaeth, ffilm a theatr (ar gyfer plant 10 oed a hŷn). Gallwn ddweud yn onest - mae rhywbeth i bawb!

Ochr yn ochr â’r ŵyl, mae Actifyddion Artistig yn cynhyrchu Parseli Creadigrwydd. Menter newydd yw hon, lle bydd y parseli yma’n cael eu cludo i gefnogi pobl ifanc sy’n methu â chael mynediad at weithgareddau ar-lein oherwydd eu bod yn byw mewn ardaloedd gwledig, ardaloedd o amddifadedd, neu ardal arall yng nghanolbarth y de. Bydd y parseli yma’n cael eu dosbarthu i ddisgyblion enwebedig cyn diwedd y tymor, er mwyn eu cefnogi yn ystod gwyliau’r haf. Dyma fenter gyffrous gan Actifyddion Artistig, ac mae llawer o alw wedi bod amdani.

I gael rhagor o wybodaeth am yr ŵyl neu’r parseli creadigol, neu gyfweliadau gydag artistiaid neu Gyfarwyddwr Actifyddion Artistig, anfonwch e-bost at patricia@artsactive.org.uk yma neu ffoniwch 07841421075.

Ewch i wefan y digwyddiad yma