Be sy’ mlaen?

Cwmni Frân Wen - Croendena




Croendena

Drama ddigri a dwys am ferch ifanc sy’n trio dod o hyd i’w thraed.

19:30, 8 Chwefror 2023

£13 – £15

Mae Nel yn 17 oed ac yn darganfod dihangfa yn y pyb ar ben yr allt sy’n llawn fflyrtio, rhagfarnau a lloriau sdici.

Dyma stori ddigri a thorcalonnus am fywyd merch ifanc sy’n trio ffendio’i thraed ynghanol unigrwydd gwledig.

Croendena yw cynhyrchiad diweddaraf y dramodydd ifanc Mared Llywelyn sy’n un o leisiau mwya’ cyffrous theatr Cymru.

Yn gomisiwn newydd gan Frân Wen, mae’r fonoddrama yn cael ei chyfarwyddo gan Rhian Blythe.

Archebu tocynnau yma