Be sy’ mlaen?

Gŵyl Gerdd Bangor




Gŵyl Gerdd Bangor

17 + 18 Chwefror

Pontio

Thema: Byrfyfyrio

Dros gyfnod o ddau ddiwrnod bydd Gŵyl Gerdd Bangor yn rhoi cyfle unigryw i archwilio creadigrwydd byr fyfyr gan brofi y diweddaraf mewn cerddoriaeth gyfoes ac arbrofol. Bydd y digwyddiad ‘Diwrnod Byr Fyfyr’ ar y dydd Gwener yn cyflwyno cyfres o sgyrsiau a gweithdai ar y pwnc, gyda chyngerdd amser cinio gan David Toop a jas gyda’r hwyr gan Trio Pax Demir (mewn cydweithrediad â Cabaret Pontio). Yn ystod y dydd Sadwrn, bydd ensemble Tern yn archwilio’r byr fyfyrio rhydd gan grŵp siambr o offerynnau a Theatr Bryn Terfel fydd lleoliad y cyngerdd olaf lle bydd Electroacwstig Cymru yn ymuno gyda’r delynores dalentog Milana Zarić a’r artist sain a chyfansoddwr gwadd, Richard Barrett.

Drwy gydol yr Ŵyl cynhelir digwyddiadau cerddorol mewn gwahanol lefydd yn Pontio, gyda chyfle i’r cynulleidfaoedd ieuengaf brofi cerddoriaeth yng nghwmni Marie-Claire Howorth ynghyd â pherfformiadau o gyfansoddiadau myfyrwyr y Brifysgol gan Ensemble Cerddoriaeth Newydd Bangor. Ymunwch gyda ni yn y dathliad!

Tocynnau yma