Be sy’ mlaen?

Pijin




Pijin / Pigeon

Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Iolo, mewn cydweithrediad â Pontio

Yn seiliedig ar nofel ‘Pigeon’ gan Alys Conran

Addasiad llwyfan gan Bethan Marlow

Mae Pijin yn werth y byd. Wel, dyna farn Iola, ei ffrind gorau. Mae’n ddewr, yn ddoniol a braidd yn beryglus, ac mae hi wrth ei bodd yn ei gwmni. Ond, mae bywyd ymhell o fod yn felys. Mae Pijin yn dyheu am gael dianc o’r bywyd sy’n aros amdano wrth fynd adref bob nos. Dychymyg, straeon a geiriau yw’r unig ffordd o oroesi. Ond un dydd, nid yw geiriau’n ddigon. Mae ei waliau’n chwalu’n deilchion a bywyd yn newid am byth.

Wedi’i lleoli yng nghysgod chwareli’r gogledd yn y ’90au cynnar, dyma stori afaelgar am dyfu i fyny, am bŵer geiriau, cyfeillgarwch a pha mor bell mae pobl yn fodlon mynd yn enw cariad. Yn seiliedig ar y nofel lwyddiannus ‘Pigeon’ gan Alys Conran ac wedi’i haddasu i’r llwyfan gan Bethan Marlow. Mae’r Gymraeg a’r Saesneg yn cyd-blethu, a phob perfformiad yn cynnwys capsiynau Cymraeg a Saesneg.

Canllaw Oedran: 13+ (Yn cynnwys iaith gref a themâu o drais yn y cartref)

Nos Lun 27 Chwefror, 7.30pm (RHAGDDANGOSIAD)

Nos Fawrth 28 Chwefror, 7.30pm (RHAGDDANGOSIAD)

Nos Fercher 1 Mawrth, 7.30pm

Nos Iau 2 Mawrth, 7.30pm (BSL / AD Saesneg)

Nos Wener 3 Mawrth, 7.30pm (AD Cymraeg)

PRIS TOCYNNAU

RHAGDDANGOSIADAU:

(27 + 28 Chwefror)#### Pris Llawn: £14

Pris gostyngol (dros 60 / anabl / myfyrwyr / dan 16): £10

Ysgolion: £8 (athrawon am ddim)

1 / 2 / 3 MAWRTH

Pris Llawn: £16

Pris gostyngol (dros 60/ anabl / myfyrwyr / dan 16): £12

Ysgolion: £10 (athrawon am ddim)

Cynnig cynnar: £5 oddi ar bris tocyn o 12/07/22 – 12/08/22

Theatr Bryn Terfel

Archebu tocynnau yma