Be sy’ mlaen?

Opera Canolbarth Cymru Hansel and Gretel




Opera Canolbarth Cymru

Hansel and Gretel

Opera Canolbarth Cymru

Hansel and Gretel

Cerddoriaeth gan Engelbert Humperdinck

Libretto gan Adelheid Wette, ar ôl stori dylwyth teg y brodyr Grimm, “Hansel a Gretel”

Offeryniaeth Ostyngedig gan Jonathan Lyness

Cyfieithiad Saesneg gan David Pountney

Cyfarwyddwr/Cynllunydd: Richard Studer

Arweinydd: Jonathan Lyness

Mae’n gyfnod anodd i rieni Hansel a Gretel. Pan sylweddola mam orbrysur y plant eu bod yn osgoi eu cyfrifoldebau ac yn dawnsio, dyna’i diwedd hi. Mae hi’n eu halltudio i’r goedwig ac mae’r plant yn crwydro i grafangau gwrach ddrwg sy’n bwriadu eu troi yn dorthau sinsir. Gyda dim ond eu cyfrwystra o’u plaid, sut byddant yn dianc o’r popty?

Cyflwyna OCC opera glasurol Humperdinck, yn cael ei channu yn Saesneg, gyda cherddorfa bartner OCC, Ensemble Cymru.

Nos Iau 9 Mawrth

7pm

Theatr Bryn Terfel

Oedolion: £20

Dros 60, dan 18, myfyrwyr: £18

Archebu tocynnau yma