Be sy’ mlaen?

Cariad yn Oes y Gin




Sioe nesaf Theatr Bara Caws

Cariad yn Oes y Gin fydd yn teithio rhwng Chwefror 28ain hyd at Mawrth 25ain.

Comedi dywyll am brofiadau pâr ifanc, bohemaidd a gwrthryfelgar wrth iddynt geisio bywyd newydd, anturus.

Dilynwn eu taith o’u cartrefi yng nghefn gwlad Cymru i ganol St. Giles yn ‘underbelly’ Llundain fawr.

“Comedi am ryddid sydd yma. Gofynnwn y cwestiwn: pa mor bell y dylem ni fynd i fynnu rhyddid, ac oes gennym ni’r hawl i rwystro rhyddid pobl eraill? Yn ystod oes o gyfnodau dan glo, cyfyngiadau a cholled, rydym i gyd yn profi ac yn archwilio ein perthynas â rhyddid, ac yn gofyn pwy sy’n haeddu rhyddid…a pwy sydd ddim?” (Chris Harris).

Awdur: Chris Harris

Cast: Siôn Emyr a Mali O’Donnell

Cyfarwyddo: Betsan Llwyd

Cerddoriaeth: Mari Mathias

Theatr Bara Caws