Be sy’ mlaen?

Awyrol




Llawenydd mawr yw eich gwahodd i agoriad Arddangosfa Agored Brondanw 2023. Bydd yr agoriad ar yr 11eg o Fawrth, 2-5yh

Mae gyda ni ddetholiad amrywiol a chyffroes o weithiau gan artistiaid lleol adnabyddus a rhai newydd sbon, yn ogystal a gweithiau newydd eu darganfod o archif Susan Williams Ellis, i gyd yn ymateb i’r thema ‘Awyrol / Airbourne’.

Byddwn hefyd yn cyhoeddi enillydd y wobr artist sy’n dod i’r amlwg am 3 o’r gloch. Bydd yr artist yma yn ennill £500 tuag at y gost o greu arddangosfa i’w ddangos yma ym mis Medi 2024.

Darperir gwin neu diod meddal am rhodd addas. Does dim angen cadw lle ar gyfer y digwyddiad yma.

Bydd y sioe ar weld hyd nes y 7fed o Fai

Oriel Brondanw