Mudiadau

Theatr Bara Caws



Mae Theatr Bara Caws yn gwmni theatr gymunedol sy’n cyflwyno gwaith gwreiddiol a pherthnasol yn yr iaith Gymraeg yn bennaf, i’r trawstoriad ehangaf posib o’r gymuned. ‘Rydym yn cynnig profiadau theatrig o’r radd flaenaf sy’n dod ag adloniant a chyffro, dyfeisgarwch a pherthnasedd i galon cymunedau Cymru a chalonnau’r Gymru. Mae rhoi cyfle i gynifer o bobl â phosib mwynhau a chymryd rhan yn y celfyddydau yn greiddiol i ethos y cwmni ers y dechrau’n deg. Mae dwy agwedd i’n gweledigaeth ar gyfer y dyfodol, sef parhau gyda’n gwaith o gyfoethogi a herio ein cymunedau gyda’n cynyrchiadau proffesiynol, ond hefyd sicrhau cenhedlaeth newydd o ymarferwyr creadigol a gwneuthurwyr theatr i alluogi’r etifeddiaeth hon i oroesi.

Ffôn: 01286 676335

Ffôn symudol: 07810 488 481

Ebost: linda@theatrbaracaws.com