Newyddion

Cyngor Celfyddydau Cymru yn agor 5 cronfa newydd i gefnogi prosiectau celfyddydol



Cyngor Celfyddydau Cymru yn agor 5 cronfa newydd i gefnogi prosiectau celfyddydol

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru heddiw (13 Ebrill) wedi agor 5 cronfa newydd i gefnogi prosiectau celfyddydol fel rhan o’r newid yn y ffordd mae’n dosbarthu arian celfyddydol gan y Loteri Genedlaethol.

Mae’r newidiadau yn cael eu gwneud ar sail adborth a dadansoddi o’r data diweddaraf gan y sector celfyddydol, sydd wedi rhoi dealltwriaeth ffres a chliriach o ble y gall cefnogaeth benodol wneud y gwahaniaeth mwyaf a diwallu anghenion y sector yn well.

Y 5 cynllun ariannu sydd yn agor heddiw yw:

Creu ac Ymgysylltu

Ein rhaglen Creu ond yn symlach - y prif fuddiolwyr yw’r bobl sy’n ymwneud â’r gweithgarwch celfyddydol.

Gwyliau

Rhaglen bwrpasol newydd sy’n ariannu gwyliau â ffocws sy’n digwydd mewn cyfnod penodol ac sy’n cyflwyno rhaglen gelfyddydol fywiog o safon gan gyrraedd y gynulleidfa ehangaf.

Ymchwil a Datblygu

Mae’n cefnogi datblygu a chreu gwaith uchelgeisiol o safon i gyrraedd cynulleidfa’r dyfodol.

Ymarfer Creadigol

Yn cefnogi artistiaid a gweithwyr creadigol yn eu datblygiad a’u dyfodol gan roi amser iddynt arbrofi’n greadigol, tyfu’n broffesiynol a gweithio mewn ffyrdd newydd.

Camau Creadigol i unigolion a sefydliadau

Ar agor i artistiaid a phobl neu sefydliadau creadigol dan arweiniad pobl F/fyddar, anabl, niwroamrywiol neu’n ethnig a diwylliannol amrywiol.

Mae’r holl fanylion a dyddiadau cau i’w gweld ar y tudalennau Ariannu yma.

Agorodd chweched cynllun ag arian y Loteri, Cynyrchiadau Mawr fis Tachwedd diwethaf gan gynnig ei grantiau cyntaf yn ddiweddar. Byddwn yn cyhoeddi’r dyddiad cau nesaf yn fuan.

Mae’r cronfeydd yn rhan o newid ehangach yn y ffordd rydym yn buddsoddi arian gan y Loteri Genedlaethol at achosion da – rhan o’r rhagor na £53 biliwn y cafodd eu codi gan chwaraewyr at achosion da ar draws Prydain er 1994.

Mae gennym hefyd gynlluniau arian Loteri penodol i’r Gymraeg a’r celfyddydau, iechyd a lles.

Rydym yn gwybod bod y galw am arian i’r celfyddydau’n uchel, ac mae’r cronfeydd newydd hyn yn ymateb uniongyrchol i’r hyn a glywsom gan y sector a’r hyn a ddangosodd y dystiolaeth inni. Maent wedi’u cynllunio o amgylch sut mae artistiaid a sefydliadau yn gweithio mewn gwirionedd - a’r gwahanol fathau o gefnogaeth sydd eu hangen arnynt ar wahanol gamau. Rydym eisiau tirwedd ariannu sy’n haws i’w llywio, yn fwy teg o ran pwy mae’n ei gyrraedd, ac yn wirioneddol ddefnyddiol i bawb sy’n gwneud ac yn rhannu gwaith gwych yng Nghymru.

Catryn Ramasut, Cyfarwyddwr y Celfyddydau