Newyddion

Cynhadledd celfyddydau ac iechyd genedlaethol Cymru nôl am ddeuddydd yn y gogledd



Cynhadledd celfyddydau ac iechyd genedlaethol Cymru nôl am ddeuddydd yn y gogledd

Mae Weave | Gwehyddu, cynhadledd celfyddydau ac iechyd genedlaethol Cymru, yn dychwelyd i Ogledd Cymru ym mis Medi am raglen ddeuddydd estynedig o siaradwyr gwadd, trafodaethau panel a gweithdai.

Yn dilyn llwyddiant y gynhadledd wreiddiol, digwyddiad undydd a gynhaliwyd yng Nghasnewydd yn 2023, bydd Weave | Gwehyddu 2025 yn cael ei chynnal ar 8-9 Medi ym Mhrifysgol Wrecsam.

Bwriad y gynhadledd, sy’n cael ei threfnu gan Rwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru, mewn partneriaeth â Phrifysgol Wrecsam a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yw dod â dros 150 o ymarferwyr creadigol, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol, a gwneuthurwyr polisi, o bob rhan o’r wlad at ei gilydd i ddathlu rhaglenni celfyddydau ac iechyd yng Nghymru a mynd i’r afael â’r angen am ddull ataliol hirdymor o fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a phwysau ar wasanaethau.

Manylion llawn a tocynnau yma