Newyddion

Lansio rhaglen uchelgeisiol newydd gan Dysgu Creadigol Cymru i drawsnewid dylunio cwricwlwm ledled Cymru



Lansio rhaglen uchelgeisiol newydd gan Dysgu Creadigol Cymru i drawsnewid dylunio cwricwlwm ledled Cymru

Mae Dysgu Creadigol Cymru yn falch o ddatgelu pennod newydd gyffrous yn ei genhadaeth i roi creadigrwydd wrth wraidd addysg.

Mae Dysgu Creadigol Cymru yn falch o ddatgelu pennod newydd gyffrous yn ei genhadaeth i roi creadigrwydd wrth wraidd addysg, yn dilyn cais llwyddiannus diweddar Cyngor Celfyddydau Cymru i raglen cymorth grant y Cwricwlwm i Gymru.

Wedi’i hariannu trwy fuddsoddiad o £3m gan Lywodraeth Cymru, gyda chyllid cyfatebol gan gyllid y Loteri Genedlaethol a ddosberthir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, bydd y rhaglen tair blynedd gwerth £6m yn rhedeg tan fis Mawrth 2028. Gan adeiladu ar ddegawd o effaith ac arloesedd mewn dysgu creadigol trwy’r celfyddydau, bydd rhaglen newydd Dysgu Creadigol Cymru yn cefnogi ysgolion ledled Cymru i ailddychmygu addysgu cwricwlwm a phrofiadau, dyfnhau ymgysylltiad, a datgloi potensial dysgwyr trwy ddulliau beiddgar a chreadigol.

Darllenwch mwy yma