Newyddion

Llyfr Lloffion Gaeaf 2025 Celfyddydau Cymunedol Gwynedd



Llyfr Lloffion Gaeaf 2025 Celfyddydau Cymunedol Gwynedd

Croeso i Llyfr Lloffion arall gan Gelfyddydau Cymunedol Gwynedd.

Mae Celfyddydau Cymunedol Gwynedd yn rhedeg cyfres o gynlluniau blynyddol sy’n cefnogi pobl Gwynedd i fwynhau ac i brofi’r celfyddydau - er budd unigolion, y gymdeithas, yr economi a’r gymuned. ⁠Bob blwyddyn, mae Celfyddydau Cymunedol Gwynedd yn rhedeg rhaglen o weithgareddau a phrosiectau gwahanol ledled y sir. O weithdai i arddangosfeydd, cyrsiau i grantiau a gwyliau i gynlluniau creadigol, rydym am i bawb fwynhau’r celfyddydau. ⁠ ⁠

Rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau’r ciplun hwn o’r gwaith yr ydym yn ei wneud. Gallwch ddarllen y llyfr lloffion trwy’r ddolen isod

https://online.fliphtml5.com/zjojj/tjpq/#p=1

E-bostiwch ni gyda unrhyw sylwadau neu adborth ar celf@gwynedd.llyw.cymru