Newyddion

Mae Storiel yn 10 oed eleni!



𝕊𝕋𝕆ℝ𝕀𝔼𝕃 𝟙𝟘

Mae Storiel yn 10 oed eleni! I ddechrau ar y dathliadau, beth am fynd yn ôl i’r dechrau…

Daeth Storiel i fodolaeth ar ôl i’r hen Amgueddfa ac Oriel Gelf Gwynedd ail-leoli i’w gartref presennol ar Ffordd Gwynedd ym Mangor yn 2016. Mae enw Storiel yn adlewyrchu’r pwysigrwydd o rannu stori Gwynedd gyda’i thrigolion, gyda Cymru a gyda’r byd. Mae hynny’n cael ei wneud trwy gelf a chreiriau hanesyddol o bob math, wedi eu curadu’n ofalus ar draws sawl oriel.

Mae Storiel yn bodoli yn hen Neuadd y Dref, a oedd cyn hynny yn Blas yr Esgob. Mae’r craidd canoloesol yn dal i ddylanwadu’n fawr ar y cynllun.

Llun 1: Paentiad dyfrlliw gan Emma Fynes Clinton (1760-1831). Mae’r llun yn dangos golygfa o Blas yr Esgob o’r gogledd hefo’r gadeirlan tu ôl a rhan o’r ardd.

Llun 2: Tu fewn i’r ffenestr fawr ar dalcen yr adeilad. Dyma lleolir y brif oriel gelf heddiw.

Llun 3: Manylyn o un o’r trawstiau yn un o’r orielau hanes ar y llawr cyntaf.

Llun 4: Tu allan i’r brif fyndefa heddiw.

I ddarganfod mwy cliciwch yma