Cyfleon

Swyddi Llawrydd yn Plas Glyn-y-Weddw



Swyddi Llawrydd yn Plas Glyn-y-Weddw

Swyddog Ymgysylltu a Marchnata i’r Rhaglen Celfyddydau

Telerau yn unol â phrofiad.

Cyfle i ranu swydd/weithio yn hyblyg i siwtio chi.

Rydym yn croesawu ymgeiswyr o gefndiroedd amrywiol.

Mae cyfleoedd llawrydd yng Nghanolfan Gelfyddydau Plas Glyn-y-Weddw trwy gyllid Adolygiad

Buddsoddi Cyngor Celfyddydau Cymru a’i rhan o fenter Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol Cymru.

Yn dilyn buddsoddiad diweddar Cyngor Celfyddydau Cymru trwy gyllid aml flwyddyn adolygiad

buddsoddi 2023 rydym yn ehangu ar raglen celf gyfoes Plas Glyn-y-Weddw ac yn chwilio am

swyddogion llawrydd i’n cefnogi i gynllunio strategaeth ymgysylltu gyda’r gymuned ehangach.

Gofynnir i bob ymgeisydd gyflwyno CV gyda llythyr cyflwyno i gwyn@oriel.org.uk erbyn y

10fed o Fai, 2024. Cyfnod gwaith am 12 mis.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol i’r swyddi hyn.

Manylion llawn yma