Be sy’ mlaen?
Dwyn i Gof gan Meic Povey
9 Hydref - 26 Hydref
Mae Huw a Bet yn briod ers 40 mlynedd a Gareth, eu unig fab, ar fin priodi Cerys. Mae trefniadau i’w cadarnhau. Mae Huw’n benderfynol o chwarae ei ran ond gyda’i gof yn araf ddadfeilio mae perygl i gyfrinachau hen a newydd gael eu datgelu. Ond pa mor fregus yw Huw mewn gwirionedd? Sut mae Bet yn ymdopi â’r sefyllfa? Oes rheswm gan Gareth i boeni am bechodau’r tadau, ac a yw Cerys yn gweld y tad yn y mab?
Mae Dwyn i Gof yn ddrama ddifyr a phryfoclyd sy’n cyfuno’r dwys a’r digrif wrth sôn am bwnc cyfredol, sydd ‘ar feddwl’ pawb y dyddiau hyn. Yng ngeiriau dihafal Meic ei hun,
“Y rheswm esh i ati i sgwennu am y pwnc penodol yma ydi hyn: O’r holl bethau all ein lladd – ac fel dywedodd yr Americanwr adnabyddus, (sic) Anthony Hopkins unwaith, ‘nobody gets out of this alive’ – yn bersonol, colli dy gof ydi’r cyflwr sy’n codi mwya’ o ofn arna’i.”
Meddai Betsan Llwyd, Cyfarwyddwr Artistig Bara Caws,
“’Roedd Meic wedi gyrru’r ddrama atom llynedd, ac ‘ro’n i wrthi’n dechrau rhyw gyfathrebu ynglŷn â hi pan gafodd ei daro’n ddifrifol wael. ‘Roedd wedi dweud ei hun bod angen rhagor o waith arni, felly ‘ro’n i mewn cyfyng-gyngor. Yna deuddydd wedi iddo farw cefais gerdyn ganddo, drwy law Catrin ei ferch, yn ei ffordd unigryw ei hun yn fy herio i ymgymryd â’r dasg asap! – a fel ddeudodd Catrin, ‘Pwy yda ni i ignorio hynny?’ Felly dyma ni! Fyddai’n colli’r cyfle i drafod, i ddadlau ac i herio, ond bydd hi – fel bob tro – yn fraint.”
Dyddiadau a lleoliadau’r daith
- 9 Hydref - Galeri, Caernarfon
- 10 Hydref - Galeri, Caernarfon
- 11 Hydref - Neuadd Dwyfor, Pwllheli
- 12 Hydref - Neuadd Dwyfor, Pwllheli
- 13 Hydref - Theatr Twm or Nant, Dinbych
- 15 Hydref - Theatr Ysgol Syr Thomas Jones
- 16 Hydref - Stiwdio Pontio, Bangor
- 17 Hydref - Neuadd Buddug, Y bala
- 18 Hydref - Stiwdio2 Theatr Clwyd, Y Wyddgrug
- 19 Hydref - Stiwdio2 Theatr Clwyd, Y Wyddgrug
- 22 Hydref - Theatr Fach, Dolgellau
- 23 Hydref - Canolfan Celfyddydau, Aberystwyth
- 24 Hydref - Theatr Felinfach
- 25 Hydref - Theatr Gartholwg, Pentre’r Eglwys
- 26 Hydref - Atriwm, Caerdydd
- 26 Hydref - Atriwm, Caerdydd
Am ragor o wybodaeth, neu i archebu tocynnau, ewch i www.theatrbaracaws.com