Be sy’ mlaen?
Celfyddydau a Busnes Cymru
- Yn dilyn llwyddiant y Rhaglen Interniaethau Creadigol yn ei 6 mlynedd gyntaf, mae C&B Cymru yn falch o gyhoeddi y bydd y cynllun yn rhedeg am 7fed flwyddyn o Hydref 2019.
Bydd y cynllun arloesol, sy’n gosod graddedigion diweddar i mewn i sefydliadau celfyddydol dielw fel codwyr arian dan hyfforddiant, unwaith eto yn gweithredu ledled Cymru.
Gwahoddir ceisiadau ar hyn o bryd gan raddedigion a sefydliadau celfyddydol sy’n dymuno cymryd rhan.
- 12 Mehefin 2019
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau – graddedigion a sefydliadau celfyddydol
- 20, 21, 24 Mehefin 2019
Cyfweliadau – graddedigion ar y rhestr fer
- Wythnos sy’n dechrau 22 Gorffennaf 2019
Cyfarfodydd rhwng graddedigion a sefydliadau celfyddydol potensial
- Medi 2019
Hyfforddiant a chynefino – Interniaid newydd
- Hydref 2019
Interniaethau yn cychwyn
Am fwy o wybodaeth ac i wneud cais cliciwch yma