Amdanom ni
Grŵp gwirfoddol wedi ei gefnogi a’i hwyluso gan Gyngor Gwynedd i hyrwyddo’r celfyddydau a’r diwylliant Cymraeg yw Gwynedd Greadigol.
Ein nôd yw cysylltu pobl sy’n gweithio yn y maes creadigol, annog pobl i weithio gyda’i gilydd, a hybu’r celfyddydau i bawb yng Ngwynedd
Mae’r Fforwm yn gyfrifol am :
drefnu gweithgareddau rhwydweithio a marchnata ar gyfer ymarferwyr celfyddydol.
trefnu amrywiol wyliau celfyddydol
gynnal Fforymau Agored, i drafod anghenion y sector gelfyddydol yng Ngwynedd
rannu gwybodaeth drwy am gyfleoedd a digwyddiadau celfyddydol arbennig
gynnal safle we www.gwyneddgreadigol.com a sicrhau presenoldeb yn y cyfryngau cymdeithasol
weithredu fel dolen gyswllt rhwng artistiaid unigol a mudiadau/cyrff celfyddydol, ac I sbarduno gwaith prosiect.