Hysbysiad Preifatrwydd
Mae Gwynedd Greadigol yn brosiect a weinyddir gan Uned Celfyddydau Cymunedol Gwynedd, Cyngor Gwynedd.
Y Rheolwr Data
Uned Celfyddydau Cymunedol, Cyngor Gwynedd yw’r rheolydd Data ac mae wedi ymrwymo i ddiogelu hawliau unigolion yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data.
Manylion cyswllt y Swyddog Diogelu Data
Mae gan Uned Celfyddydau Cymunedol Gwynedd gefnogaeth, Swyddog Diogelu Data, Cyngor Gwynedd y gellir cysylltu ar ebost post@gwyneddgreadigol.com
Pa wybodaeth ydym ni’n ei chasglu amdanoch?
Fel aelod o Gwynedd Greadigol, rydym yn casglu’r data a ddarperir gennych ar gyfer eich proffil a gyhoeddir yn y parth cyhoeddus, gan gynnwys eich enw, enw'r cwmni, teitl swydd, cysylltiadau sector a dolenni’r we. At hynny, rydym yn casglu eich cyfeiriad e-bost, cyfeiriad cartref a chôd post, ac ni chânt eu cyhoeddi ar eich proffil.
Sut caiff eich gwybodaeth ei defnyddio?
Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth i anfon e-byst, cynnal ymchwil a dadansoddiad ystadegol, hyrwyddo ein digwyddiadau a’ch cysylltu ag aelodau eraill rhwydwaith Gwynedd Greadigol,.
Beth yw ein sail gyfreithiol dros brosesu eich data personol?
Mae’r unigolyn sydd o dan sylw yn y data yn cydsynio i’r prosesu drwy fod yn aelodau o Gwynedd Greadigol. Mae'r ddeddfwriaeth yn rhoi hawl benodol i unigolion dynnu cydsyniad yn ôl ac mae gennych yr hawl i wneud hynny ar unrhyw adeg drwy gysylltu â ni.
Pwy sy’n cael eich gwybodaeth?
- Gwynedd Greadigol
- Cyngor Gwynedd
Defnydd gwefan Caerdydd Creadigol o ‘cwcis’.
Beth yw ‘cwcis’?
Mae cwcis yn ffeil testun bach sy’n cynnwys gwybodaeth a allai gael ei symud rhwng eich porwr (e.e. Internet Explorer, Chrome, Firefox, neu Safari) a chyfrifiadur sy’n rhedeg gwefan (fel arfer y safle wnaeth osod y cwci). Nid yw’n cynnwys unrhyw gôd ac ni all wneud unrhyw beth. Mae'r rhan fwyaf o wefannau yn eu gosod ac ni allant weithio’n iawn hebddynt. Fel arfer, maent yn cynnwys dynodydd yn unig fel bod y gweinydd yn gwybod ei fod wedi gweld yr ymwelydd hwnnw o’r blaen.
Pa friwsion ydym yn eu defnyddio ar safle Gwynedd Greadigol?
(nai ychwanegu manylion yma ar ôl holi Delwedd)
Unrhyw drosglwyddiadau i wledydd tu allan i’r Undeb Ewropeiaidd (UE) a’r mesurau diogelu sydd wedi’u gosod
Ni chaiff data ei drosglwyddo y tu allan i’r UE.
Am ba hyd y caiff eich gwybodaeth ei chadw?
Bydd Cyngor Gwynedd yn cadw ac yn storio data personol yn ddiogel am gylch oes y prosiect.
Beth yw eich hawliau?
Mae gennych hawl i gael mynediad at eich gwybodaeth bersonol, cywiro unrhyw wallau, trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol ac, mewn rhai achosion, gwrthwynebu cael eich gwybodaeth bersonol wedi’i phrosesu.
Dylid cyflwyno unrhyw geisiadau neu wrthwynebiadau mewn ysgrifen i ni ar ebost post@gwyneddgreadigol.com
Diogelwch eich gwybodaeth
Yn anffodus, nid yw trosglwyddo gwybodaeth dros y rhyngrwyd yn gwbl ddiogel. Er y byddwn yn gwneud ein gorau i ddiogelu eich data personol, ni allwn warantu diogelwch y data sy’n cael drosglwyddo i’n safle; caiff unrhyw drosglwyddiad ei wneud ar eich menter eich hun. Unwaith y byddwn wedi derbyn eich gwybodaeth, byddwn yn defnyddio gweithdrefnau llym a nodweddion diogelwch i atal mynediad heb awdurdod.
Sut i wneud cwyn
Os ydych yn anfodlon â’r modd y proseswyd eich data personol, yn y lle cyntaf, gallwch gysylltu â Gwynedd Greadigol gan ddefnyddio'r manylion cyswllt uchod.
Os byddwch yn parhau'n anfodlon, mae gennych hawl i wneud cais am benderfyniad yn uniongyrchol i'r Comisiynydd Gwybodaeth. Gallwch gysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth yn: -
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth,
Wycliffe House,
Water Lane,
Wilmslow,
Sir Gaer,
SK9 5AF
www.ico.org.uk.