Cyfleon

Galwad Agored – Comisiwn Ysgolion Creadigol GwyrddNi



Mae GwyrddNi yn chwilio am ymarferwyr creadigol (artistiaid, ysgrifenwyr, cerddorion, gwneuthurwyr ffilm, beirdd - beth bynnag fo’ch ymarfer creadigol!) i weithio gydag ysgolion yng Ngwynedd ar gomisiwn o amgylch Gweithredu Hinsawdd Gymunedol. Mae lleisiau pobl yn eu cymunedau wrth graidd ein gwaith, ac felly mae’r comisiwn hwn i gyd yn ymwneud a chefnogi ac ysbrydoli lleisiau ifanc i fynegi negeseuon o amgylch yr hinsawdd mewn ffordd greadigol.

Os ydych chi’n angerddol am ymgysylltu a phobl ifanc, grymuso cymunedau, a taclo’r argyfwng hinsawdd trwy greadigrwydd, dyma’r comisiwn i chi!

Yn fras: Bydd yr hyn yr ydych yn ei greu ar y cyd yn cyfrannu at weithredu hinsawdd leol drwy rannu neges gydag aelodau cymuned yr ardal. Mae llais pobl yn eu cymuned yn allweddol i holl waith GwyrddNi ac felly llais y plant fydd yn ganolog i’r neges sy’n cael ei gyfleu a sut caiff ei gyfleu. Yn ogystal chydweithio a’r plant i greu cynnyrch terfynol, bydd y broses greadigol rydych yn ei hwyluso yn eu helpu i ganfod eu llais am neges am y thema dan sylw (mewn rhai ysgolion mae’r plant eisoes wedi cychwyn ar y gwaith hwn). Rydym yn agored i unrhyw ymarfer creadigol gall gyfrannu at gyrraedd y nod hwn.

Pryd? Bydd y gwaith yn digwydd rhwng rŵan a diwedd Mehefin (yn factora i mewn y broses recriwtio, cyd-gynllunio, hyfforddiant a darparu’r gwaith).

Tal: Rydym yn cynnig £300/diwrnod. Bydd 5 diwrnod o waith yn ynghlwm a bob ardal â felly £1500 fesul ardal. Rydym yn gweithio mewn 5 ardal mewn cyfanswm â mae croeso i chi ymgeisio am y gwaith oddi mewn i un, sawl un neu bob un o’r pum ardal.

Dyddiad cau: Tachwedd 29, 2024. Manylion, briff a sut i wneud cais yma: https://www.gwyrddni.cymru/ysgolioncreadigol/

Mwy am GwyrddNi: Mudiad gweithredu ar newid hinsawdd yw GwyrddNi, sy’n uno chwe menter gymdeithasol lwyddiannus yng Ngwynedd.

Y chwe sefydliad sy’n ffurfio GwyrddNi yw: Datblygiadau Egni Gwledig (DEG); Cyd Ynni; Partneriaeth Ogwen; Cwmni Bro Ffestiniog; Ynni Llyn; Yr Orsaf.

Ar ol cynnal Cynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd yn 2022-23, rydym nawr yn gweithio i gefnogi cymunedau mewn pum ardal (Pen Llyn, Dyffryn Nantlle, Dyffryn Peris, Dyffryn Ogwen a Bro Ffestiniog) i ddod a’u syniadau ar sut i daclo newid hinsawdd yn fyw.