Be sy’ mlaen?

TAIGH, TŶ, TEACH




Mae tocynnau TAIGH/TŶ/TEACH ar gael RWAN!!

Yn Theatr Bara Caws rydym wrth ein bodd cael bod yn rhan o bartneriaeth drawsffiniol arloesol, ynghyd â Theatre Gu Leòr (Yr Alban) a Fishamble: The New Play Company (Iwerddon), i gyflwyno profiad theatrig unigryw tairieithog – TAIGH/TŶ/TEACH - i’n cynulleidfaoedd.

Cyd-destun y cynhyrchiad yw ‘tŷ’ yn y cymunedau Cymraeg/Gaeleg/Gwyddeleg sy’n cael eu heffeithio gan ail gartrefi, tai gwag, AirBnBs, rhenti uchel, a diffyg tai fforddiadwy i’r bobl leol. Tair stori sy’n amlygu’r sialensau sy’n berthnasol i’r tair gwlad, a’r heriau sy’n effeithio ar y bobl sy’n byw yn y cymunedau hynny.

Ysgrifennwyd TŶ/TEACH/TAIGH gan Mared Llywelyn Williams, Mairi Morrison, ac Eva O’ Connor, a byddwn yn perfformio mewn safleoedd-penodol yn y tair gwlad.

Canolfan Iaith Nant Gwrtheyrn yw’r lleoliad yng Nghymru, lleoliad a fydd yn sicrhau profiad unigryw i’r gynulleidfa gael ei throchi mewn darn o waith mewn safle cwbl arbennig. Cyflwyniad promenâd yw hwn gyda’r gynulleidfa’n cael ei thywys o un ‘lleoliad’ i’r llall, gan brofi’r dramâu mewn un iaith ar ôl y llall, a cherddoriaeth fyw yn gweu drwy’r cyfan.

Bydd crynodebau Cymraeg ac is-deitlau Saesneg ar gael i sicrhau hygyrchedd.

Byddwn yn trefnu bod bws yn cludo’r gynulleidfa o’r maes parcio top i lawr i Nant Gwrtheyrn er mwyn hwyluso’r trefniadau cyn ac ar ôl pob sioe.

Nifer cyfyngedig o docynnau sydd ar gael felly’r cyntaf i’r felin…

https://www.wegottickets.com/TheatrBaraCaws