Be sy’ mlaen?

Creigiau Geirwon




Creigiau Geirwon

Ar greigiau geirwon Eryri y triga Lili’r Wyddfa, un o’n blodau mwyaf prin.

Dewch i gyfarfod â’r tywyswyr mynydd cynnar a fu’n arwain y botanegwyr a chasglwyr planhigion, y daearegwyr, artistiaid a beirdd ar hyd y llethrau a’r copaon ers 300 mlynedd a mwy.

Dyma sioe sy’n cyfuno drama, hiwmor, cerddoriaeth a dawns fertigol ar raffau!

Cawn gyfarfod â sawl ymwelydd, gan gynnwys rhai adnabyddus, drwy lygaid y bobl leol, pobol fel William Williams, neu ‘Wil Bŵts’ o Lanberis.

Bydd y tywyswyr yn rhannu rhai o’u straeon, a’u profiadau i ddiddanu, bwydo a chysgodi’r ymwelwyr ar gopa’r Wyddfa.

A oedden nhw’n gwerthfawrogi pwysigrwydd y planhigion prin sydd i’w cael ar y llechweddau, a beth yw dyfodol y Lili heddiw?

Gwelwyd y sioe yn Pontio, Bangor llynedd ac wedi ei recordio’n fyw gan gwmni SDG.

Hwn oedd trydydd cynhyrchiad Cwmni Pendraw. Mae’r cwmni’n arbenigo mewn cyfuno hanes a gwyddoniaeth mewn ffyrdd creadigol ac annisgwyl, gyda’r actorion Iwan Charles, Llyr Evans a Manon Wilkinson, cerddoriaeth byw gan Patrick Rimes a Casi Wyn, ac am y tro cyntaf, dawns fertigol gan gwmni Kate Lawrence.

Cyd gynhyrchiad gan Gwmni Pendraw, Vertical Dance Kate Lawrence a Pontio.

Yn Gymraeg gydag is-deitlau Saesneg.

Addas ar gyfer oedran 7+

Chwefror 29

£6

Archebu tocynnau yma