Be sy’ mlaen?

The Fureys




The Fureys

Bu mawr ddisgwyl i The Fureys ddychwelyd a phan wnânt, byddant yn rhoi gwledd o gerddoriaeth boblogaidd i’w cynulleidfa.

Maent yn un o fandiau canol y ffordd, gwerin a thraddodiadol mwyaf clodwiw a dylanwadol Iwerddon erioed. Mae clasuron y Fureys fel I Will Love You, When You Were Sweet 16, Red Rose Café, Leaving Nancy, The Old Man, From Clare to Here a The Green Fields of France wedi dod yn drac sain i fywydau cefnogwyr ar draws y byd.

Roedd y brodyr Furey yn dal i geisio ei gwneud hi fel cantorion gwerin ar ddiwedd y chwedegau pan oedd Eddie Furey yn rhannu fflatiau yn yr Alban gyda’i gyd-sêr gwerin ar y pryd, Billy Connolly a Gerry Rafferty (o enwogrwydd Baker Street).

Mae Eddie a George Furey yn arbennig o falch o’u llwyddiant siartiau yn y Deyrnas Unedig gyda chaneuon fel I Will Love You a When You Were Sweet Sixteen, a helpodd yn ei dro i ddod â cherddoriaeth werin a thraddodiadol Iwerddon i gynulleidfa gwbl newydd. Gwnaeth y band eu hymddangosiad cyntaf ar Top of the Pops yn 1981.

Mae Eddie Furey yn cofio sut “mae llawer o gerddorion wedi dweud wrthon ni ein bod wedi dylanwadu arnyn nhw ar ôl clywed record o gasgliad eu rhieni neu neiniau a theidiau”. Dywed Dave Stewart o The Eurythmics mai Eddie a ddysgodd ei gordiau cyntaf iddo ar y gitâr. Byddai Eddie yn dychwelyd y ganmoliaeth trwy ymuno â Dave ar y llwyfan ym Mharis am jam yn ystod priodas Dave â Siobhan Fahey o Bananarama.

Nos Iau 4 Ebrill

7.30pm

Theatr Bryn Terfel

£24

Tocynnau yma