Be sy’ mlaen?

Georgia Ruth, The Gentle Good + Carwyn Ellis




Georgia Ruth, The Gentle Good + Carwyn Ellis

Galeri a Bubblewrap Collective yn cyflwyno noson i ddathlu cerddoriaeth werin gyda Georgia Ruth, The Gentle Good a Carwyn Ellis.

Georgia Ruth

Cerddor o Aberystwyth yw Georgia Ruth. Gan ddefnyddio dylanwadau gwerin i greu sain sy’n gwbl unigryw, fe enillodd ei halbwm gyntaf Week of Pines y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2013, ac fe’i henwebwyd ar gyfer dwy wobr yn y BBC Radio 2 Folk Awards.

Bu Georgia yn cydweithio efo’r Manic Street Preachers ar Futurology yn 2014 cyn rhyddhau ei hail albwm Fossil Scale yn 2016. Rhyddhaodd Georgia ei thrydydd albwm - Mai – ym mis Mawrth 2020 trwy Bubblewrap Records. Dilyn hyn, rhyddhaodd EP i gyd fynd gyda’r albwm, Mai: 2, yn cynnwys ailgymysgiadau gan Gwenno ac Accu, ynghyd ag EP o gerddoriaeth newydd sbon, ‘Kingfisher’ (2023).

Bydd pedwerydd albwm stiwdio Georgia yn cael ei ryddhau yn 2024.

“Her own debut is a wonder, full of longing and melody” – MOJO “One of the British folk discoveries of the year” – The Guardian

“Georgia is finding her own distinct voice” – Q Magazine

The Gentle Good

Enw lwyfan Gareth Bonello, cyfansoddwr ac offerynnydd o Gaerdydd yw The Gentle Good. Mae Gareth wedi ei ddylanwadu yn gryf gan gerddoriaeth a thraddodiadau werin Cymru yn ogystal â dylanwadau o bedwar ban byd. Mae’r holl lot yn dod at ei gilydd i greu cerddoriaeth werin hudol a modern yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Mae The Gentle Good wedi rhyddhau sawl albwm megis ‘Tethered for the Storm’ ac ‘Y Bardd Anfarwol’, sydd wedi derbyn canmoliaeth gan adolygwyr a ffans cerddoriaeth gyfoes. Cafodd y ddau albwm yna eu henwebu ar gyfer y Gwobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2011 ac 2014. Yn 2018, rhyddhaodd Gareth ei bedwaredd albwm, ‘Ruins / Adfeilion’, a aeth ymlaen i ennill y Wobr Gerddoriaeth Gymreig. Yn dilyn hyn, astudiodd Gareth ar gyfer ei PHD, gan archwilio cerddoriaeth Bryniau Khasi yng Ngogledd Ddwyrain India a’r hanes a rennir gyda Chymru. Y canlyniad oedd albwm yn 2021 dan yr enw ‘Khasi-Cymru Collective’.

Dychwelodd Gareth yn 2023 gyda’i bumed albwm, ‘Galargan’. Casgliad cynnil o ganeuon gwerin Cymreig sydd ar yr albwm. Rhyddhawyd yr albwm i ganmoliaeth feirniadol a chyflawnodd ‘Albwm Gwerin y Mis’, yn y Guardian.

“Mesmerising Welsh folk” - The Guardian

…a warm wash of aural sunlight…a fresh lungful of pure mountain air” - fRoots

“…as delicate as a watercolour yet with the energy of a master calligrapher’s work” - Folk Radio UK

Carwyn Ellis

Yn ffigwr toreithiog ar y sin pop indie yn y DU, mae’n bosib bod y cyfansoddwr/aml-offerynnwr/cynhyrchydd Carwyn Ellis yn fwyaf adnabyddus am y grŵp Colorama, prosiect seicedelig sy’n gwneud cerddoriaeth soul, electro-pop, pop siambr a gwerin tra’n cadw pop melodig yn greiddiol i’r caneuon.

Cafodd albwm cyntaf y grŵp, ‘Cookie Zoo’, ei ryddhau yn 2008. Rhyddhad lleiaf eclectig Colorama hyd yma oedd ‘Some Things Just Take Time’ yn 2017, teyrnged i gyfansoddwyr caneuon Americanaidd clasurol. Rhyddhawyd albwm olaf Colorama, ‘Chaos Wonderland’ yn 2020.

Hefyd yn adnabyddus am ei waith gydag Edwyn Collins a’r Pretenders, gwnaeth ei albwm gyntaf fel Carwyn Ellis & Rio 18 gyda dylanwadau pop o Frasil ar ‘Joia’ yn 2019. Rhyddhaodd ‘Mas’ yn 2021, ac yna ‘Yn Rio’, wedi’i recordio gyda’r Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Ers hynny, mae Carwyn wedi rhyddhau cerddoriaeth yn unigol ac fel aelod o Rio 18. Fel cerddor stiwdio a chynhyrchydd, mae hefyd wedi gweithio gydag artistiaid yn amrywio o Oasis ac UNKLE i Saint Etienne a Shane MacGowan.

19:30 - Dydd Sadwrn, 13 Ebrill

Tocynnau yma