Be sy’ mlaen?

Mwrdwr ar y Maes




MWRDWR AR Y MAES

Theatr Bara Caws

Mwrdwr ar y Maes gan Iwan Charles a Llyr Evans.

Caëwch y drysau yn y cefn a phob chwara teg! Mae Sioe Glwb ddiweddaraf Bara Caws ar fin cychwyn…MWRDWR AR Y MAES…

Ar yr wyneb mae Eisteddfod Aberbronfraith wedi bod yn led wyddiannus, a lot o focus wedi eu ticio. Y Goron, y Fedal Ryddiaith a Gwobr Daniel Owen wedi’u hennill, a’r gobaith rwan ydi y bydd Bardd Traws, naci dim Hedd Wyn, yn ennill y Gadair. Tic, tic, tic.

A thic enfar i’r Eisteddfod am fod mor gynhwysfawr, arwydd clir eu bônt yn symud gyda’r oes. Nid Eisteddfod i’r dosbarth canol fydd hi mwyach, ond ‘steddfod i bawb, y di-gartref, y di-waith ar di-dalent… Ond bu mwrdwr, ac os bu mwrdwr, ma’ rhaid bod mwrdwrwrwrwr…ar y maes, ond pwy?

Felly, dewch yn llu (os meiddiwch chi!) i helpu Hank a Shandy (o Rhyl) a nifer o gymeriadau lliwgar eraill i ddatrys y dirgelwch.

Mae’n addo bod yn noson werth chweil, felly mynnwch eich tocynnau a dewch a’ch ffrindiau hefo chi!

18+

Cliciwch yma am fanylion llawn y taith ac i archebu tocynnau