Be sy’ mlaen?

Mewn Print: Syr Frank Brangwn RA (1867 - 1956)




Mewn Print: Syr Frank Brangwn RA (1867 - 1956) Ysgythriadau, lithograffau ac Engrafiadau Pren o Gasgliad Archifau Prifysgol Bangor

Mehefin 29 - 28 Medi 2024

Agoriad 12yp 29.06.24

Ganed Brangwyn yn Bruges, ac fe fu’n byw ac yn gweithio yn y DU fel darlunydd, peintiwr, murluniwr, dyluniwr dodrefn, tecstilau a serameg. Roedd Brangwyn hefyd yn wneuthurwr printiau cynhyrchiol: gweithiodd yn bennaf ar ysgythru, lithograffi ac engrafu pren. Mae’r detholiad bychan o brintiau sydd yn yr arddangosfa hon yn ceisio dangos rhai o gryfderau a sgiliau Brangwyn y gwneuthurwr printiau, ac mae’n gwneud hynny i gyd-fynd â, a dathlu cyhoeddiad catalog Dr Horner.