Be sy’ mlaen?

Cyngerdd ‘Dolig: Al Lewis, Gwenno Morgan + Buddug




Cyngerdd ‘Dolig: Al Lewis, Gwenno Morgan + Buddug

image

Rydym yn gyffrous i ddatgelu’r arlwy anhygoel ar gyfer ein Cyngerdd ‘Dolig eleni – Al Lewis, Gwenno Morgan a Buddug. Byddwch yn barod am noson fythgofiadwy o gerddoriaeth fyw a naws Nadoligaidd gan rai o dalentau mwyaf mawreddog ac addawol Cymru.

Al Lewis

Mae albwm diweddaraf Al Lewis, ‘Fifteen Years’ yn archwilio themâu o alar ac o iachad drwy brofiad Al ei hun o ddechrau dod i ddelio o’r diwedd â marwolaeth ei dad tra’n gobeithio helpu eraill mewn sefyllfaoedd tebyg.

Mae Al wedi rhyddhau sawl albwm, wedi ennill Cân + Albwm Gorau yng Ngwobrau Americana (fel rhan o Lewis & Leigh) wedi ei enwebu ar gyfer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig a Gwobrau Gwerin Cymru (am ei sengl ‘The Farmhouse’). Mae ei albymau i gyd wedi treulio sawl wythnos yn #1 ar y siartiau Cymraeg. Mae hefyd wedi perfformio mewn digwyddiadau eiconig fel Gŵyl Glastonbury, Gŵyl Gerdd Americana Nashville, Gŵyl Werin Philadelphia, Gŵyl Lorient (Llydaw) a Celtic Connections yn Glasgow.

‘A Child’s Christmas in Wales’ sef sengl Al yn seiliedig ar stori Dylan Thomas, oedd y gân gyntaf i’w chanu’n rhannol yn Gymraeg i’w ychwanegu at restr chwarae BBC Radio 2 ac ers hynny mae artistiaid mor amrywiol â Gary Barlow a John Owen Jones wedi’w recordio hi.

Roedd ei albwm ‘Te yn y Grug’ yn ddarn cysyniadol corawl-gwerin a ysgrifennwyd yn wreiddiol ar gyfer sioe gerdd o’r un enw a berfformiwyd mewn cyngerdd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanrwst 2019.

Gwenno Morgan

Yn hannu o deyrnas hudolus Gogledd Cymru ac yn awr yn saernïo ei chelfyddyd yn strydoedd prysur Llundain, mae Gwenno Morgan yn bianydd a chyfansoddwr sydd yn mynd y tu hwnt i ffiniau traddodiadol.

Gyda’i gwreiddiau’n ddwfn yn y piano clasurol o 7 oed ymlaen, arweiniodd ei thaith i Texas yn 2019 i archwilio jazz ac ymasiad clasurol. Fodd bynnag, ysgogodd dyfodiad pandemig Covid-19 aileni creadigol, gan ei llywio tuag at gyfansoddi a chynhyrchu ei darnau piano ei hun.

Gan dynnu ysbrydoliaeth o alawon gwerin ac awyrgylch sinematig, mae cyfansoddiadau Gwenno yn gweithredu fel dyddiaduron emosiynol, gan adlewyrchu sbectrwm o brofiadau o alar i chwant crwydro. Daliodd ei EP cyntaf, “Cyfnos,” a ryddhawyd yn 2021, sylw Sian Eleri a Huw Stephens o BBC Radio 1, gan nodi iddi gyrraedd fel llais newydd cymhellol. Mae sengl ddiweddaraf Gwenno, “Samhain,” a gyd-gynhyrchwyd gan Arthur Brouns a aned yng Ngwlad Belg, yn nodi dechrau pennod newydd gyffrous ar ei thaith, sy’n arwydd o addewid o waith mwy arloesol i ddod.

Bydd adran llinynnol yn cyd-fynd ag alawon hyfryd Gwenno ar y noson.

Buddug

Mae’r gân ‘Dal Dig’ wedi taflu Buddug o fod yn fyfyrwraig ifanc, i fod yn artist sydd yn cyffroi pawb yng Nghymru gyda’i cherddoriaeth dwys a anthemig. O Frynrefail, a newydd orffen ei Lefel A, mae’r byd ar blat i’r gantores a ddaeth i label Côsh yn wreiddiol drwy argymhelliad Alys Williams, oedd yn gweithio efo hi mewn gwersi canu.

Bydd Buddug a’i band yn agor y noson gyda set acwstig.

Ar ben hyn i gyd, mi fyddFfresco yn ymuno efo ni eto ‘leni efo DJ set yn y bar - bachwch docyn yn fuan!

Rhagfyr 21ain

£16

Archebu tocynnau yma