Be sy’ mlaen?

Artist wanted




Artist yn eisau!
Mae’r Gwasanaeth Anabledd Dysgu yn edrych am artist cymunedol llawrydd i gynnal cyfres o 6 gweithdy celf.
Mae cynllun ar droed i agor siop newydd yn Stryd Bangor, Caernarfon a fydd yn ganolbwynt cymunedol ac yn safle
i werthu cynnyrch wedi eu creu gan unigolion sydd yn gysylltiedig a’r gwasanaeth. Hoffem i artist cymunedol
gynnal cyfres o weithdai celf i ddylunio a chreu delweddau a all gael eu hatgynhyrchu ar gynnyrch amrywiol
e.e. cardiau cyfarch, bagiau a nwyddau i’r cartref i’w gwerthu yn y siop.
Bydd disgwyl i’r artist gydweithio â staff i ymchwilio ac adnabod dulliau o atgynhyrchu’r delweddau yn barod i’w gwerthu.
Dylech fod ar gael i gynnal y gweithdai yn ystod mis Hydref 2019 ac anelu i gael casgliad o gardiau cyfarch yn barod
i’w gwerthu yn y siop pan y bydd yn agor ddechrau mis Tachwedd 2019. Mae’r gallu i gyfathrebu’n rhugl ar lafar drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol.
Bydd y gweithdai’n cael eu cynnal yn Ardal Arfon, lleoliad i’w gadarnhau.
Cyllideb:
· 6 gweithdy, 2.5awr yr un @ £20 yr awr = £300 (i gynnwys amser paratoi a teithio)
· 5 awr o waith @ £20 yr awr i ymchwilio i ddulliau o atgynhyrchu’r delweddau yn barod i’w gwerthu = £100
· Cyllideb deunyddiau = £100
I ymgeisio gyrrwch e-bost yn son am eich profiadau celfyddydau cymunedol a’r hyn y
gallwch gynnig i’r prosiect hwn, copi o’ch CV ac enghreifftiau o’ch gwaith celf i Gwawr Wyn Roberts
erbyn 9yb, dydd Llun 16 Medi, 2019.
Rhagwelir cynnal cyfweliadau ar 23 Medi.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Gwawr Wyn Roberts, Swyddog Datblygu Celfyddydau Cymunedol 01286 679721