Be sy’ mlaen?

GWLAD




GWLAD, CAERNARFON

Y Galeri, Caernarfon
16 Tachwedd, 11:00 – 18:00
Ymunwch â ni wrth i ni nodi 20 mlynedd o ddatganoli yng Nghymru drwy ddod â GWLAD: Gŵyl Cymru’r Dyfodol i Gaernarfon.
Bydd y digwyddiad hwn yn RHAD AC AM DDIM a bydd yn cynnig rhywbeth i’r teulu cyfan!
Diwrnod hwyl a sbri i blant a’u teuluoedd, 11.00 – 16.00
Rhwng 11:00 a 16:00 bydd gennym amrywiaeth o berfformiadau gan gynnwys sioe newydd ‘Ein Senedd’ sy’n adrodd hanes y Cynulliad, gan y cwmni theatr addysgol ‘Mewn Cymeriad’, talent lleol Sbarc ac Angylion Kelly a sioe wyddoniaeth gan Techniquest.
Yn ogystal â’r perfformiadau bydd amryw o weithgareddau, gan gynnwys disgo ‘Ynni da’, celf a chrefft ac arddangosfeydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Lechi Cymru.
Mae pob gweithgaredd yn gysylltiedig â’r meysydd sydd wedi’u datganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, fel iechyd, yr amgylchedd, y Gymraeg, sgiliau ac addysg.
Am 16:00 byddwn yn cynnal trafodaeth banel – ‘Sgwrs ar gyfer Cymru’r dyfodol‘- bydd hyn yn gyfle i drafod a rhannu syniadau am y materion sydd o bwys yn lleol ac i Gymru gyfan. Bydd cyfle i chi ofyn eich cwestiwn i’r panel yn ystod y digwyddiad. Ar y panel fydd:
Siân Gwenllian, Aelod Cynulliad, Arfon
Brengain Williams, Aelod Seneddol Ieuenctid Cymru, Arfon
Ifan Morgan Jones, Golygydd Nation.Cymru
Sean Taylor, Llywydd a Sylfaenydd, Zip World
Elin Gwilym, Newyddiadurwraig, BBC Cymru
Gallwch archebu tocynnau i wrando ar y drafodaeth yma
Bydd derbyniad, dan ofal Siân Gwenllian, yn dilyn y drafodaeth panel.
Gobeithio y gallwch ymuno â ni!