Be sy’ mlaen?

Gweithdy i Athrawon: Magu Hyder Drama




Athrawon!

Gweithdy: Magu Hyder Drama

Bydd y gweithdy ymarferol hwn yn cyflwyno ac yn datblygu eich gwybodaeth am ddefnyddio amrywiaeth o weithgareddau, technegau a strategaethau drama. Sesiwn egniol yn llawn syniadau, bydd yn cynnig (mwy o) greadigrwydd a dysgu gweithredol ar gyfer eich ysgol!

Mae’r gweithdy yn addas ar gyfer athrawon Cyfnod Allweddol 2.

Nifer cyfyngedig, archebwch nawr

Mawrth 5 - Galeri, Caernarfon, cyflwyno gweithdy yn GYMRAEG archebwch yma

Mawrth 6 - Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug, cyflwyno gweithdy yn SAESNEG archebwch yma

Mawrth 9 - Glasdir, Llanrwst, cyflwyno gweithdy yn SAESNEG archebwch yma

Mawrth 10 - Pafiliwn Llangollen, cyflwyno gweithdy yn GYMRAEG archebwch yma

Am ddim ac mae EDAU yn cynnig cyfraniad tuag at gostau cyflenwi staff.